Mae Dangos yn brosiect yn rhoi gwybodaeth am fudd-daliadau i bobl sydd mewn cyswllt o ddydd i ddydd a rai a allai fod angen cymorth i wella eu sefyllfa ariannol wybodaeth am fudd-daliadau ddeall yn well pa gymorth sydd ar gael.
Neges gan Dangos:
Gyda phobl Cymru yn parhau i wynebu pwysau ariannol cynyddol, mae angen parhaus am gymorth a gwybodaeth am fudd-daliadau a’r cymorth arall sydd ar gael.
Mae llawer o newidiadau mawr i’r ffordd mae’r system yn effeithio ar bobl. Mae’r broses o symud pobl nad yw eu hamgylchiadau wedi newid i’r system Credyd Cynhwysol yn mynd rhagddi, a bydd yn cynnwys Cymru gyfan yn ystod y misoedd nesaf.
Mae cylch cyllid presennol Dangos yn dod i ben yng nghanol mis Mawrth, felly mae amser o hyd i fanteisio ar y sesiynau arlein am ddim a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddiweddaru ac ehangu ar eich gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael.
Mae gennym sesiynau hanner diwrnod sylfaenol a chanolradd sy’n ymdrin â’r materion, budd-daliadau a chymorth arall, ond mae ein sesiynau newydd sy’n canolbwyntio ar bynciau penodol yn ffordd wych o gael y wybodaeth ddiweddaraf am feysydd eraill.
• Gellir cadw lle ar y cyrsiau Dangos canlynol yn awr
• Pobl Hŷn a’u harian – heneiddio, pensiynau a budddaliadau
• Plant a Phobl Ifanc – o feichiogrwydd hyd ddiwedd addysg
• Angen gofal – gofal cymdeithasol, codi tâl a budd-daliadau anabledd
• Beth sy’n newid ac wedi newid – yr holl reolau a chynlluniau newydd
Gellir cadw lle ar gyrsiau cyhoeddus ar wefannau Dangos yn dangos.wales a dangos.cymru , lle ceir mwy o fanylion am y cyrsiau. Gellir trefnu sesiynau mewnol trwy anfon neges e-bost at info@dangos.wales neu info@dangos.cymru .
Yn olaf, peidiwch ag anghofio fforwm Dangos lle gallwch weld newyddion am yr hyn sy’n effeithio ar gymorth ariannol yng Nghymru, lle i lawrlwytho holl ddeunyddiau Dangos gan gynnwys recordiadau o weminarau a lle i ofyn am help, gwybodaeth a chymorth ac i drafod materion o ddiddordeb. Mae’r fforwm ar gael yn dangos.wrac.wales .