- Hoffech chi rannu profiadau gyda phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg?
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod y gwasanaethau sydd ar gael i chi?
Mae ein cyrsiau a'n grwpiau ffôn rhad ac am ddim, anffurfiol yn y gymuned yn darparu gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth ac atebion ymarferol i bobl sy'n addasu i golled golwg a'r rhai sy'n agos atynt.
Ein nod yw eich helpu chi i addasu i'ch cyflwr golwg, cynyddu eich annibyniaeth a rhoi hwb i'ch hyder. Byddwch yn cael y cyfle i gyfarfod a rhannu profiadau gydag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.
Mae'r sesiynau yn cynnwys:
- Hawliau lles
- Mynd allan
- Awgrymiadau a theclynnau ar gyfer bob dydd
- Technoleg gynorthwyol – cyfrifiaduron, tabledi, ffonau
- Iechyd llygaid
- Llesiant
- Hamdden, hobïau a diddordebau
Hefyd, byddwch chi'n clywed am ystod o sefydliadau a grwpiau lleol am wasanaethau allan yna i'ch helpu chi.
Mae'n digwydd ddydd Mercher 3 a 10 Mehefin 2020, 10.30am i 3.30pm yn Neuadd Y Dref, Aberhonddu LD3 7AL
Mae croeso i chi ddod ag aelod o'r teulu neu ffrind gyda chi.
Archebwch eich lle am ddim heddiw!
- Ffoniwch RNIB ar 0300 123 3933
- E-bostiwch RNIB ar lwslenquiries(at)rnib.org.uk
- Ewch i'n gwefan www.rnib.org.uk/livingwithsightloss