Rydym yn gwneud cais i bawb yn y sector creadigol a thu hwnt i gyfrannu at yr agenda. Felly, cysylltwch â sian(at)artsconnection.org.uk os hoffech gymryd rhan. Byddem yn hoffi trefnu’r digwyddiadau ar sail themâu gwahanol, megis cyfranogiad / ymgysylltiad, cefnogi gweithwyr llawrydd. Rydym yn chwilio am y cyfraniadau canlynol:
- Cyflwyniadau - ar brosiect, eich gwaith - unrhyw arddull. Yn y gorffennol defnyddiwyd arddull cyflwyno PechaKucha (20 sleid ac 20 eiliad i drafod pob sleid)
- Cychwyn trafodaeth – hoffech chi drafod pwnc / problem penodol
- Gweithdy – hoffech chi brofi gweithdy blasu neu gêm torri’r iâ
- Rhannu perfformiad /dull celf – ydych chi’n gweithio ar rywbeth ar hyn o bryd yr hoffech ei brofi, neu dderbyn adborth arno gan bobl eraill
Byddwn yn cynnal pedwar cyfarfod yn ystod 2021, cynhelir y cyfarfodydd trwy Zoom (ac efallai’n bersonol) ac anfonir dolenni atoch ar ôl ichi gofrestru:
Dydd Llun 22ain Mawrth, 10am – 12pm
Dydd Llun 21ain Mehefin, 10am – 12pm
Dydd Llun 20fed Medi, 10am – 12pm
Dydd Llun 29ain Tachwedd, 10am – 12pm
I gofrestru ewch at - https://artsconnection.org.uk/pan