Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau gan amrywiaeth o arbenigwyr yn eu meysydd a byddant yn ymdrin ag ystod eang o bynciau perthnasol sy'n dod o dan derm ymbarél 'Eithafiaeth', mae'r rhain yn cynnwys cynnydd yr Asgell Dde, trosolwg byr o grwpiau o ddiddordeb, bygythiad cynyddol y Mudiad Incel, dealltwriaeth o wrywdod gwenwynig a'r themâu cysylltiedig, pam y gall graffiti a sticeri fod yn gymaint o broblem wrth fynd i'r afael â phryderon ynghylch eithafiaeth, problem casineb ar-lein a gwybodaeth am astudiaeth achos hynod ddiddorol wedi'i hariannu gan y Swyddfa Gartref ac sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Ceredigion.
Os ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc mewn unrhyw gapasiti, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu'r sesiwn hon, ac rydym yn gobeithio y bydd yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol ichi. E-bostiwch slbowen(at)sirgar.gov.uk i archebu lle.
Cynhelir y digwyddiad dros Zoom ddydd Mawrth, 2 Mai am 1pm. Mae manylion wedi'u cynnwys yn y poster amgaeedig.