Mae Carers Wales yn gwahodd pob gofalwr di-dâl sy’n rhan o fwrdd, pwyllgor, panel neu debyg, lle maen nhw’n cynrychioli llais y gofalwr ac yn bwydo i mewn i gynllunio gwasanaethau neu wneud penderfyniadau boed ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol i gyfarfod a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mawrth 14eg.
Gallwch gofrestru yma.
Mae gofalwyr yn cynrychioli gofalwyr eraill ar sawl ffurf, felly mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, ofalwyr sy’n rhan o
- Paneli llais y dinesydd
- Paneli neu bartneriaethau gofalwyr awdurdodau lleol
- Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
- Paneli rhanddeiliaid
- Grwpiau llais cleifion.
Sylwch, er bod gwaith pwysig gweithwyr proffesiynol wrth hwyluso llais y gofalwr yn cael ei werthfawrogi, nid yw'r bwrdd crwn hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac mae'n agored i ofalwyr di-dâl sydd â rôl gynrychioliadol yn unig.
Maent yn gobeithio hwyluso trafodaeth gefnogol lle gall cynrychiolwyr gofalwyr drafod eu profiadau, eu hanghenion cymorth a sut y gellir cryfhau llais y gofalwr ymhellach.