Alzheimer’s Society Cymru Rhaglen o Wybodaeth a Chefnogaeth i Ofalwyr

Ydych chi’n gofalu am rywun sydd â dementia? Ymunwch â ein sesiynau gwybodaeth a chefnogaeth gyda gofalwyr eraill.

Gall cael cefnogaeth gan bobl sy'n deall yr heriau rydych chi'n eu hwynebu wneud gwahaniaeth enfawr. Mae ein sesiynau gwybodaeth a chymorth ar gyfer teulu, ffrindiau a gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia. Efallai bod ffrind neu berthynas wedi cael diagnosis diweddar neu wedi bod â dementia ers cryn amser.

Mae’r rhaglen pedair-wythnos yn cael ei redeg gan Ymgynghorwyr Dementia medrus, tosturiol a phrofiadol. Bydd y rhaglen yn cael ei redeg dros pedair wythnos, yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Deall Dementia
  • Darparu Cefnogaeth a Gofal
  • Materion Cyfreithiol ac Ariannol
  • Ymdopi o Ddydd i Ddydd

Bydd y sesiynau yn cael eu cyflwyno ar-lein gan ddefnyddio Zoom, a gall cefnogaeth gael ei ddarparu i’ch helpu i’w ddefnyddio.

I archebu lle, neu i gael gwybodaeth am ddyddiadau yn y dyfodol, Cysylltu:  03300 947 400

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity