Os felly, hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdy sy'n archwilio sut mae'r broses hon yn gweithio ac i glywed eich syniadau ar sut y gellir ei gwella i ddiwallu anghenion gofal cymdeithasol yn well.
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn gorff cenedlaethol sy'n gweithio i wella ansawdd y gofal yng Nghymru drwy nodi, arfarnu a mabwysiadu dulliau iechyd a gofal.
Er mwyn sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli'n llawn, mae Technoleg Iechyd Cymru yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a'r Sefydliad Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol (SCIE) i ddeall yn Well unrhyw rwystrau neu heriau sy'n atal unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r maes gofal cymdeithasol yng Nghymru rhag cyflwyno ymyriad i'w ystyried.
Fel rhan o'r gwaith hwn byddwn yn cynnal gweithdy ar-lein ar 16 a 17 Mehefin i adolygu a deall sut y gellid newid materion iaith, ffocws y gynulleidfa a hygyrchedd i wneud y broses yn fwy addas ar gyfer cynulleidfa gofal cymdeithasol.
Rydym am dynnu ar fewnwelediadau a phrofiad ystod eang o unigolion a sefydliadau i sicrhau bod y gweithdy'n llwyddiant.
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan i roi eich barn er mwyn helpu i siapio'r ffordd y mae pobl â phrofiad byw yn rhyngweithio â Thechnoleg Iechyd Cymru wrth gynnig ymyriadau gofal cymdeithasol arloesol o ansawdd da, sydd â'r potensial i gael eu mabwysiadu ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.
Os hoffech chi gymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Llenwch y ffurflen mynegiant diddordeb trwy'r ddolen survey monkey hon:
https://www.surveymonkey.co.uk/r/QF3B359
Erbyn y 7 o Mai 2021
Mae manylion pellach y gweithdy ynghlwm. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y gweithdy peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Kate Howson