Wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, bydd yr Academi yn helpu ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol yn ymwneud â datrysiadau digidol. Cymru yw'r wlad gyntaf yn y byd i lansio Academïau Dysgu Dwys arbenigol (ILAs), gydag PDC y brifysgol ddiweddaraf i gyflawni'r hyfforddiant arloesol hwn.
Gan weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, mae PDC wedi creu amrediad o gyrsiau hyblyg sy'n cynnwys cyfleoedd ar lefel ôl-raddedig a doethuriaeth ym maes Arwain Trawsnewidiad Digidol.
Yn agored i arweinwyr a rheolwyr ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddatblygu arweinwyr llawn gallu i Arwain Trawsnewidiad Digidol fel ymagwedd system gyfan. Mae hyn yn golygu y bydd arweinwyr mewn gwell sefyllfa i roi'r newidiadau sydd eu hangen ar waith i gwrdd â heriau'r dyfodol yn yr hir dymor ac ar ôl Covid-19. Bydd y cyrsiau'n archwilio technolegau newydd ac yn meithrin diwylliant o chwilfrydedd ac arloesedd mewn rhaglenni i helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru. Bydd yr hyfforddiant yn cymhwyso dysgu ac yn profi ymagweddau newydd mewn arweinyddiaeth ddigidol a all fynd i’r afael â heriau trwy feddu ar feddylfryd ‘Digidol yn Gyntaf’.
Mae'r rhaglenni pwrpasol sydd ar gael yn PDC bellach yn derbyn cofrestriadau: Academi Dysgu Dwys | University of South Wales. Bydd y cyrsiau, y gellir cyrchu'r rhan fwyaf ohonynt o bell, yn hyfforddi ac yn paratoi'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr byd-eang i adeiladu systemau iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol.
Y nod yw grymuso gweithluoedd sydd â'r arbenigedd, y sgiliau a'r hyder i yrru ailgynllunio systemau iechyd a gofal er gwell, gan wella canlyniadau a phrofiadau cleifion, gan hybu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau ar yr un pryd.
Bydd pob cwrs yn croesawu ymgeiswyr sy'n gweithio ar draws systemau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd cyffredinol o bedwar partner - Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys ac Ymddiriedolaeth Prifysgol GIG Felindre, ymhlith eraill.
Bydd y traws-gydweithredu ar draws y cyrsiau yn annog arloesi a chydweithio. Bydd hyn yn caniatáu cyd-ddatblygu sgiliau a phartneriaethau gwerthfawr i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol trawsnewidiol.
Dywedodd yr Athro Bob Hudson, Cyfarwyddwr yr Academi Dysgu Dwys ym Mhrifysgol De Cymru: ”Mae'r GIG yn newid o hyd, ac mae graddfa'r newid dros y 18 mis diwethaf wedi bod yn ddigynsail. Mae angen i'n harweinwyr Iechyd a gofal cymdeithasol fod â'r offer i gwrdd â heriau'r dyfodol, felly rydym yn falch iawn o lansio'r Academi Dysgu Dwys.
“Dylai anelu at newid trawsnewidiol fod yn sail i'n holl ymdrechion i ddatblygu ein gwasanaethau ac mae arweinyddiaeth gref yn hanfodol i hynny er mwyn i ni wella profiadau i gleifion, clinigwyr a'r cyhoedd yn ehangach. Bydd y rhaglen hon yn cefnogi ein harweinwyr i yrru trawsnewidiad digidol a bod yn gatalydd ar gyfer arloesi.”
Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys: “Mae gweithio digidol yn allweddol i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol a bydd y gwaith cyffrous hwn yn paratoi ein timau i arwain ar hyn.”
Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Rwy wrth fy modd ein bod wedi gallu cydweithio â Phrifysgol De Cymru i ddatblygu Academi Dysgu Dwys i’r ardal.
“Dylai wneud gwahaniaeth mawr i’r sector iechyd a gofal ym Mhowys wrth i ni edrych i ddatblygu arweinwyr a rheolwyr presennol a rhai’r dyfodol, gyda ffocws ar greu atebion digidol er mwyn trawsnewid ein gwasanaethau gofal a chymorth.”
Dywedodd Carol Cooper, Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys: “Mae’n braf gweld y sector gwirfoddol yn rhan o’r fenter hon i feithrin arweinwyr medrus gyda gwell cyfarpar i weithio mewn ffordd ddigidol.
“Law yn llaw â’n partneriaid yn y sector cyhoeddus ym Mhowys, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu atebion arloesol i fynd i’r afael â’r pwysau unigryw sy’n wynebu gwasanaethau yn ein sir wledig iawn.”
Mae mwy o wybodaeth am yr Academi newydd ar gael yn: Academi Dysgu Dwys | University of South Wales