Dyma’r drydedd ardal ym Mhowys lle maen nhw wedi cynnal ymgysylltiad â ffocws am gyfnod o fis.
Aethant i 13 o wahanol leoliadau a siarad â phobl am eu barn a'u profiadau o dderbyn gwasanaethau iechyd a gofal.
Rhannodd rhai pobl brofiadau cadarnhaol, tra dywedodd eraill wrthynt am yr heriau y maent yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau.
Yn dilyn y cyfnod hwn o ymgysylltu, cynhalion nhw weithdy ar y cyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys lle tynnwyd sylw at brif themâu’r hyn a ddywedodd pobl wrthynt. Mewn ymateb, buont yn trafod meysydd gwaith sydd eisoes ar y gweill ac yn nodi rhai camau gweithredu i'w cymryd.
Gallwch weld eu hadroddiad yn crynhoi’r hyn a glywsant a’r ymatebion a gawsant gan y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Sir yma.