Ydych chi'n defnyddio gwasanaethau ysbyty yng Ngheredigion neu Sir Gaerfyrddin?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn i gleifion i helpu i lywio gwasanaethau’r dyfodol ymhellach, trwy gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu dros gyfnod o chwe wythnos.

Ers cyhoeddi ei strategaeth, Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach: Cenedlaethau’r Dyfodol yn Byw’n Dda yn 2018, mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda phartneriaid i ddarparu gofal a datblygu gwasanaethau.

Fodd bynnag, mae pandemig coronafeirws wedi cael effaith mawr ar wasanaethau iechyd a gofal. O ganlyniad, mae’r Bwrdd Iechyd am ddysgu gan y cyhoedd sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd a’u gofal, a’u mynediad at y gwasanaethau hyn.

Mae BIP Hywel Dda hefyd yn gofyn am adborth y cyhoedd mewn perthynas â’i strategaeth hirdymor i ddatblygu ac adeiladu ysbyty newydd yn ne ardal Hywel Dda, rhywle rhwng ac yn cynnwys Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin ac Arberth yn Sir Benfro. Penderfynwyd ar y lleoliad hwn drwy'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2018.

Bydd yr ymarfer ymgysylltu yn para o ddydd Llun 10 Mai tan ddydd Llun 21 Mehefin 2021.

Am wybodaeth bellach:

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity