Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu'r camau newydd sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru o ddydd Llun 14 Medi i atal yr achosion positif o Coronafeirws rhag codi ymhellach. Mae'r rhain yn cynnwys ei gwneud yn orfodol i bobl dros 11 oed wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus fel siopau, ac mai dim ond chwech o bobl o aelwyd estynedig sy'n gallu cwrdd y tu mewn.
Wrth i blant ddychwelyd i’r ysgolion, rwy’n deall y bydd rhieni’n pryderu oherwydd adroddiadau o achosion positif. Byddwn yn eich annog i ddilyn cyngor yr ysgol neu'r awdurdod lleol a dylech chi dynnu plant o'r ysgol dim ond pan ofynnir i chi wneud hynny Mae’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith wedi’u cynllunio i atal yr afiechyd rhag lledaenu y tu hwnt i’r ‘swigod’ a grëwyd mewn ysgolion.
Unwaith eto mae’n bwysig bod plant yn parhau i olchi eu dwylo’n rheolaidd drwy gydol y dydd ac wrth ddychwelyd adref, ac mae’n hanfodol i rieni eu cynorthwyo gyda hyn.
Golchi dwylo
Golchi’ch dwylo'n rheolaidd yw un o'r ffyrdd gorau o atal lledaeniad Coronafeirws.
Dyma ddolenni i negeseuon a bostiwyd gennym dros yr wythnos ddiwethaf. Mae croeso i chi eu rhannu.
Profi Olrhain Diogelu
Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o ddeunydd defnyddiol y gallwch ei rannu i hyrwyddo Profi Olrhain Diogelu. Gallwch weld y cyfan yma.
Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru
Mae Sgrinio Llygaid Diabetig yn ailddechrau y mis hwn mewn clinigau ledled Cymru – gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yma.
Mae'r tîm sgrinio wedi dechrau rhywfaint o waith i lywio sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID ac yn hygyrch i gyfranogwyr.
Rydym yn cynnal arolwg sydd bellach ar gael ar-lein yma. Rhannwch hyn â'ch rhwydweithiau ac yn enwedig unrhyw grwpiau sy'n cefnogi pobl â diabetes. Bydd rhagor o wybodaeth am ailddechrau gwasanaethau sgrinio eraill ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf
Curwch Ffliw
Lansiad
Bydd ymgyrch Curwch Ffliw yn cael ei lansio eleni am 10:15am ar 21 Medi gyda digwyddiad Microsoft Teams byw gyda'r cyfryngau yn bresennol a chwestiynau'n cael eu hateb gan:
- Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething
- Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Richard Roberts
- Rheolwr y Ward Iechyd Meddwl a Hyrwyddwr Ffliw, Casey Keegans
Cais am gwestiynau – gofynnwch i'ch defnyddwyr am gwestiynau a allai fod ganddynt am y tymor ffliw hwn, a bydd rhai'n cael eu hateb yn ystod y digwyddiad.
Pecyn cymorth
Rwyf wedi atodi adnodd Curwch Ffliw eleni. Rhan allweddol o ymgyrch eleni fydd gweithio gyda'n partneriaid fel cysylltiadau allweddol i gynulleidfaoedd lleol neu benodol.
Byddem yn ddiolchgar am eich cymorth i hyrwyddo ymgyrch eleni i'ch rhwydweithiau ar dudalennau gwe mewnol ac allanol, ar restrau adnoddau/dolenni tudalennau gwe, negeseuon e-bost i randdeiliaid neu gylchlythyrau ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech helpu i rannu deunyddiau, neu os hoffech drafod yr ymgyrch ymhellach drwy:
hannah.lindsay(at)wales.nhs.uk a jodie.phillips2(at)wales.nhs.uk
Atwrneiaeth arhosol
Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cynnal ymgyrch i gynghori pobl ar sut i wneud atwrneiaeth arhosol yn ystod y pandemig.
Mae 72 y cant o bobl yn credu mai eich perthynas agosaf sydd bob amser yn cael y gair olaf mewn penderfyniadau triniaeth yn yr ysbyty, os na allwch wneud y penderfyniadau hyn eich hun. Nid yw hyn yn wir. Mae angen i benderfyniadau meddygol gael cydsyniad penodol, y cytunwyd arno gan y person dan sylw, cyn y gall perthynas agosaf wneud dewisiadau o ran triniaeth neu les ar ran rhywun arall.
Gallwch ymweld â gwefan yr ymgyrch yma.
Un o'i nodau fydd nodi pobl a sefydliadau a fydd yn gweithredu fel llysgenhadon a chyfathrebu negeseuon i'w cynulleidfaoedd. Rhannwch hyn os ydych yn teimlo bod gennych gynulleidfaoedd a fyddai'n cael budd o ddeall sut i wneud atwrneiaeth arhosol.