Mae cytundeb i ddarparu cymorth trwy daliadau uniongyrchol yn gorffen ym mis Mawrth 2023 sy’n rhoi cyfle i’r cyngor wrando ac ymateb i bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Yn y dyfodol, bydd trigolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol am eu anghenion gofal a chymorth yn gallu galw ar amrywiaeth o ddarparwyr i’w helpu i wneud hyn.
Bydd cyngor ar fyw’n annibynnol sy’n darparu gwasanaeth cynghori, rheolaeth a recriwtio gofalwyr, yn cael ei reoli gan y Cyngor. Y gobaith yw y bydd y newid hwn yn gwella cysylltiadau â gwasanaethau sydd eisoes yn cael eu rheoli gan y Cyngor gan arwain at wella profiadau i unigolion a’u gweithwyr.
Rhagwelir hefyd y bydd y rhai sy’n derbyn taliadau uniongyrchol yn gallu dewis o blith nifer o ddarparwyr gwasanaeth cyflogres, yn hytrach nag un dewis fel yw’r achos ar hyn o bryd.
Bydd y newidiadau hyn yn digwydd dros y misoedd nesaf a bydd y rhai dan sylw’n cael gwybod ac yn cael help llaw trwy gydol y broses i sicrhau na fydd yn achosi llawer o drafferth.
Anghenion pobl Powys sydd bwysicaf a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phawb sy’n darparu ac yn derbyn taliadau uniongyrchol er mwyn sicrhau bod cymorth ar gael i’r unigolion dan sylw ac na fydd unrhyw berygl i hynny.
Mae’r Cyngor yn cydnabod gwaith a chyfraniad darparwyr presennol taliadau uniongyrchol yn y gorffennol, yn arbennig dros y pandemig.
Mae’r Cyngor yn rhoi taliadau uniongyrchol i rai pobl gydag anghenion gofal a chymorth i’w galluogi i drefnu eu cymorth eu hunain mewn ffordd sy’n gyfleus iddyn nhw.
I fod yn gymwys, rhaid fod y person dan sylw wedi derbyn asesiad gwasanaethau cymdeithasol sy’n ategu’r angen am ryw fath o ofal cymdeithasol.
Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth neu gyngor ar ofal a chymorth, mae’n bosibl y bydd Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys yn gallu eich helpu:
• Ar gyfer oedolion, cysylltwch â CYMORTH ar 0345 602 7050 neu ar-lein: Cysylltwch â CYMORTH ar-lein - Cyngor Sir Powys
• Ar gyfer plant a theuluoedd, cysylltwch â Drws Ffrynt Powys ar 01597 827666
Gallwch ddefnyddio’r dulliau cysylltu uchod os oes gennych bryderon am les oedolyn, plentyn neu berson ifanc sy’n agored i niwed.
Os ydych chi’n credu y gallai cyfarpar wneud pethau’n haws i chi, yna gallwch ofyn am gyngor di-duedd ar wefan AskSARA: https://powys.livingmadeeasy.org.uk/
Gallwch hefyd fynd i wefan Dewis Cymru i gael manylion sefydliadau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol all gynnig help: https://www.dewis.wales/home