Tudalen we i wella gwybodaeth am y Rhaglen Ganser

Bydd preswylwyr Powys sy'n byw gyda chanser yn gallu cael gwybodaeth am raglen arloesol o'r enw "Gwella'r Daith Canser ym Mhowys" (ICJ Powys) drwy fewngofnodi i ddolen we newydd a grëwyd i rannu diweddariadau a gwybodaeth am nodau ac uchelgeisiau'r rhaglenni.

Rhaglen partneriaeth tair ffordd yw ICJ Powys a ariennir gan Gymorth Canser Macmillan ac sy'n cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Dywedodd Dr Jeremy Tuck, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

"Mae'r rhaglen Gwella'r Daith Ganser yn cefnogi Strategaeth Iechyd a Gofal y sir sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r pedwar clefyd mawr sy'n cyfyngu ar fywyd ein preswylwyr.  Canser yw un o'r rhain a'n nod yw cyflwyno dull holistaidd o ymdrin â'r gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn yn dilyn diagnosis.

"Mae ein tudalen we yn rhoi trosolwg, ynghyd â fideo sy'n amlygu sut y daeth y rhaglen hon i fodolaeth a rhai dolenni defnyddiol i gefnogi sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Bracken, PAVO a Credu. Mae yna hefyd rai fideos gan feddygon teulu a phreswylydd sy'n siarad am ei thaith canser.  Gall pobl gael mynediad drwy ddolen i'n sianel You Tube. Rwy'n gobeithio y bydd unrhyw un sy'n byw gyda chanser yn ei gweld yn adnodd defnyddiol y byddwn yn ei ddiweddaru wrth i ni symud ymlaen gyda'n prosiectau peilot."

Fel sir wledig heb ysbyty cyffredinol mae preswylwyr Powys yn cael eu cyfeirio at un o tua 14 o ysbytai ar gyfer asesiadau a thriniaeth gychwynnol a all fod naill ai yn rhai tymor byr neu dymor hir.  

Nod pennaf y rhaglen yw sicrhau y cynigir asesiad anghenion holistaidd dilynol i bob oedolyn sy’n cael diagnosis o ganser. Gellir cwblhau hyn ar-lein yng nghysur cartref yr unigolyn.  Mae'n rhoi’r cyfle iddynt ystyried a thynnu sylw at unrhyw bryderon mawr sydd ganddynt p'un a yw hynny’n ymwneud â chymhwysedd i gael budd-daliadau, gwneud ewyllys neu ddod o hyd i grŵp cymorth lleol.

Ar ôl ei gyflwyno, mae gweithiwr cyswllt lleol yn nodi'r cymorth a'r gwasanaethau allweddol a all ddiwallu anghenion yr unigolyn ac yn cael sgwrs i'w harwain a'u cyfeirio.  Mae cwblhau'r fersiwn ar-lein hefyd yn rhoi mynediad at ystod o daflenni gwybodaeth Macmillan sy'n cynnig cyngor ar y pynciau a ddewisiwyd. 

I fynd i’r dudalen ICJ, ewch i:  https://cy.powysrpb.org/icjpowys

Mae Llinell Gymorth Macmillan ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 8am-8pm ar 0808 808 00 00 neu ewch i macmillan.org.uk.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity