Neges gan Carl Cooper, Cadeirydd, BIAP
Mae ei secondiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dyst i'w harbenigedd, ei sgiliau a'i phrofiad, ac yn adlewyrchu'r hyder y mae'n ei fagu yn y GIG a Llywodraeth Cymru trwy ei harweinyddiaeth, ei gofal a'i thosturi. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl dros dro.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Hayley Thomas, ein dirprwy brif weithredwr cyfredol am gytuno i gamu mewn i rôl y Prif Weithredwr yma ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys dros dro. Bydd llawer ohonoch yn adnabod Hayley, ei chyfoeth o brofiad a'r ffordd y mae wedi arwain llawer o feysydd gweithredol er budd y bwrdd iechyd hwn, pobl Powys ac yn ehangach ledled Cymru.
Ond nid Carol a Hayley yn unig ydyw; mae gennym dîm gweithredol ehangach a'r sefydliad cyfan a gallwn ddibynnu ar eu sgiliau, eu galluoedd, eu harbenigedd a'u gwybodaeth wrth i ni fwrw ymlaen â'n strategaethau a'n cynlluniau ac wrth inni barhau i wasanaethu pobl Powys hyd eithaf ein gallu.
Rydw i’n gwybod efallai bydd ein cydweithwyr yn hoffi rhannu eu dymuniadau da gyda Carol yn ei chyfnod secondiad, ac os felly gallwch anfon y rhain i powys.executive(at)wales.nhs.uk i ni eu rhannu gyda hi.
Ein dymuniadau gorau i Carol, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu adref ymhen ychydig fisoedd.
Carl Cooper, Cadeirydd, BIAP
Fideo: https://youtu.be/-oPc8tC6wp0