Mae prosiect y gamlas yn rhaglen Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae ei bartneriaid yn cynnwys Cyngor Sir Powys, Glandŵr Cymru, Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.
Y nod yw i ddod â phartneriaid allweddol ynghyd i gyflawni prosiectau sy'n rhoi hwb i les cymunedol gan ddefnyddio rhwydweithiau'r gamlas yn y sir.
Nod rhaglen ICJ - sy'n cael ei hariannu gan Macmillan Cancer Support - yw darparu gwell cymorth i bobl sy’n cael diagnosis o ganser yn agosach i adref. Mae'r cymorth hwn yn dechrau gyda'r cynnig o sgwrs bersonol gyda gweithiwr cyswllt sydd wedi’i hyfforddi. Mae rhai o'r trigolion sy'n byw gyda chanser wedi rhannu sut y gall mynd allan i fyd natur fod yn fuddiol i’w llesiant, felly mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig cyfle o'r fath yn ystod mis Medi fel rhan o brosiect ehangach y gamlas.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach:
"Nod y prosiect hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw gwella mynediad i gamlas Trefaldwyn a chamlas Mynwy ac Aberhonddu i alluogi pobl yn yr ardaloedd hynny i fwynhau’r harddwch o gerdded wrth ymyl y dŵr tra hefyd yn teimlo'n well ynddynt eu hunain. Rydym wedi bod yn cynnal teithiau cerdded ar gyfer gwahanol grwpiau ledled y sir ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'r rhaglen Gwella’r Daith Canser ym Mhowys i gynnig y teithiau cerdded hyn drwy gydol mis Medi ar hyd camlas Mynwy ac Aberhonddu."
Dywedodd Richard Pugh, Rheolwr Partneriaethau Macmillan ar gyfer Cymorth Canser Macmillan:
"Yn Macmillan, ry’n ni'n gwybod, bod gallu camu tu allan i'w drws ffrynt a dychwelyd i fyd natur yn gallu bod o fudd mawr i les pobl sy’n byw â chanser. Mae ein rhaglen ym Mhowys yn ymwneud â gwella ansawdd bywyd person ym mha bynnag ffordd sy'n bwysig iddyn nhw. Y gobaith yw y bydd y teithiau cerdded hyn yn apelio at drigolion sydd â diagnosis o ganser ac mae yna wahoddiad hefyd i aelodau o'u teuluoedd ac anwyliaid. Mae'r pwyslais ar fwynhau taith gerdded hamddenol yng nghefn gwlad hardd Powys tra’n meithrin cyfeillgarwch ag eraill sydd hefyd ar eu taith ganser."
Bydd y daith gerdded gyntaf yn cael ei chynnal ar lwybr tynnu Aberhonddu ddydd Iau 1 Medi gyda phawb yn cwrdd y tu allan i'r theatr am 11am. Bydd y daith yn cymryd hyd at awr a bydd yn cael ei theilwra ar gyfer anghenion y grŵp gan gynnwys cyfleoedd i aros, gorffwys ac edmygu'r golygfeydd. Bydd teithiau cerdded yn y dyfodol yn digwydd o bentrefi ar hyd y gamlas gan gynnwys Pencelli a Thalybont. Gofynnir i drigolion sy'n byw gyda chanser ac sydd â diddordeb i archebu lle drwy gysylltu â Leonie Gittins, Swyddog Cymorth Prosiect drwy anfon e-bost ati leonie.gittins@powys.gov.uk neu drwy ei ffonio ar 01597 826754.
Os yw’r person sy'n byw gyda chanser neu aelodau o'r teulu eisiau gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael o dan raglen Gwella'r Daith Canser ym Mhowys, mae gwybodaeth ar gael ar y dudalen we yma: cy.powysrpb.org/icjpowys