Enw'r fersiwn ddigidol wedi'i diweddaru o'r llyfryn yw 'Ynglŷn â sgrinio serfigol (prawf ceg y groth)' ac mae i'w gael ar wefan Sgrinio Serfigol Cymru, yn yr adran adnoddau gwybodaeth
Datblygwyd yr adnodd, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth ac Anabledd Dysgu Cymru yn 2022.
Mae'n mynd â'r darllenydd drwy'r broses prawf sgrinio serfigol (ceg y groth), gan ddefnyddio geiriau a lluniau syml.
Mae'r cynllun yn ei wneud yn arbennig o addas ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, y rhai nad yw'r Gymraeg na'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, unigolion â lefel llythrennedd iechyd isel a grwpiau eraill sy’n cael eu tanwasanaethu.
Gellir gweld a lawrlwytho’r llyfryn drwy fynd i wefan Sgrinio Serfigol Cymru: icc.gig.cymru/sgrinio-serfigol