Mae'r rhaglen ddysgu yn cael ei chynnal drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth a'i nod yw helpu i wella lles y grŵp hwn o drigolion Powys sy'n gwneud cymaint i gefnogi eraill yn eu cymunedau.
Bydd y Rhaglen Gydbwyso yn cynnwys y sesiynau canlynol:
- Cadw’n Iach – 7 a 24 Mawrth (dwy awr)
- Hunanofal – 21 Chwefror a 15, 21 a 24 Mawrth (dwy awr)
- Bywyd Gofalgar – Sesiynau dwy awr, dros wyth wythnos, yn dechrau 12 Chwefror
- Rhannu profiadau a chymorth – 28 Mawrth (dwy awr)
- Encil Un Diwrnod ar gyfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar, gweithgarwch a symudiadau creadigol – 9 Ebrill, lleoliad i’w gadarnhau.
I gael gwybod mwy ac i archebu eich lle, cysylltwch â Nikki Thomas-Roberts ar 07803 472316 (6-8pm) neu anfonwch e-bost: phoenixmindfulliving(at)gmail.com