Rydym eisiau clywed am eich profiad personol, boed yn dda neu’n ddrwg, fel y gallwn rannu eich profiadau gyda staff y Bwrdd Iechyd, aelodau’r Bwrdd neu yn gyhoeddus i’n helpu adnabod ffyrdd y gallwn barhau i wella ein gwasanaethau i gleifion a’u teuluoedd.
PWY ALL ADRODD EI STORI?
Unrhyw glaf, neu aelod teulu / gofalwr, os ydych yn byw ym Mhowys neu wedi derbyn gofal iechyd yma. Gallwch adrodd eich stori ar unrhyw amser ac mae’n broses rwydd iawn.
Rydym eisiau casglu storïau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth helaeth o gleifion sy’n defnyddio ein gwasanaethau, ac mae diddordeb arbennig gennym mewn clywed gan gleifion o gefndiroedd amrywiol megis gwahanol oedrannau, grwpiau ethnig, ieithoedd, a chan bobl sydd ag anableddau.
SUT GALLAF ADRODD FY STORI?
Gallwch chi ddewis sut i adrodd eich stori. Gallwn recordio eich llais i ysgrifennu eich stori, gallwn eich helpu i ysgrifennu eich stori, gallwn eich ffilmio neu efallai byddai’n well gennych ddefnyddio celf neu luniau. Ni fyddwn yn rhannu eich stori gydag unrhyw un hyd nes y byddwch yn hapus.
Gallwch adrodd eich stori yn y Gymraeg, Saesneg, BSL neu unrhyw iaith arall.
SUT I GYSYLLTU
Os hoffech ddweud eich stori neu os hoffech gael sgwrs gyda ni yn gyntaf, cysylltwch â ni yn Powys.equalityandwelsh(at)wales.nhs.uk Gallwch hefyd gysylltu drwy’r post yn: Tîm y Gymraeg a Chydraddoldeb, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Aberhonddu, Powys, LD3 0LU.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych