Gweler neges isod oddi wrth, Paul Underwood Rheolwr Cyffredinol, Is-adran Gofal Brys , Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae’n bleser gennyf atodi papur briffio a dogfennau ategol mewn perthynas â’r uchod at eich sylw. Mewn ymateb i nifer o faterion gweithredol a phrofiad o lefelau gweithgarwch y tu allan i oriau, mae’r Bwrdd Iechyd wedi cynnig rhai newidiadau i’r oriau agor yn rhai o’i unedau mân anafiadau, ac mae’r manylion wedi’u nodi yn y papur.
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, mae’n bwysig ein bod yn ymgysylltu â’r holl ddefnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid posibl, ac felly rwy’n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y cynigion, er mwyn i chi allu ystyried y rhain a rhoi gwybod i ni am unrhyw broblemau ac ymholiadau sydd ganddynt. I’r perwyl hwn, mae cyfnod ymgysylltu o wyth wythnos wedi’i drefnu ac mae’r papur sydd ynghlwm hefyd yn nodi ffyrdd y gallwch fynegi eich barn i ni.
Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ystyried yr holl safbwyntiau a phryderon posibl, byddwn yn eich annog i gysylltu â ni drwy unrhyw un o’r dulliau a amlinellir yn y papur briffio, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod ymgysylltu sydd i fod i ddod i ben ar ddydd Gwener 3 Tachwedd.
Gobeithio y byddwch yn gallu cymryd rhan a helpu i lywio ein penderfyniad terfynol ynghylch gwasanaethau ein hunedau mân anafiadau. Edrychaf ymlaen at glywed eich barn.
Yn gywir
Paul Underwood
Rheolwr Cyffredinol, Yr Is-adran Gofal Brys
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan