Fel rhan o’n gwaith, rydym wedi datblygu taflen wybodaeth newydd i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu’r rheini a allai fod mewn perygl.
Mae’r daflen yn rhoi gwybodaeth i helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin a’r gwahanol fathau o gam-drin, yr hyn y gall pobl ei wneud os ydyn nhw’n poeni am rywun arall, a lle mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Mae fersiwn electronig o’r daflen ynghlwm, a gobeithio y gallwch ei rannu â’ch rhwydweithiau / cysylltiadau a thrwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Mae copïau caled o’r daflen hefyd ar gael. Os hoffech chi rai i’w rhoi i’r bobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi, cysylltwch â swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn drwy anfon neges i – ask(at)olderpeoplewales.com – neu ffonio 03442 640 670.