Myfyrwyr cyntaf Academi Iechyd a Gofal Powys yn dechrau ar eu lleoliadau gwaith

Mae myfyrwyr cyntaf Academi newydd Iechyd a Gofal Powys wedi dechrau eu lleoliadau gwaith

Un o fyfyrwyr Cynllun Kickstart Academi Iechyd a Gofal Powys, Rhys Warburton.

Byddan nhw’n cefnogi gwasanaethau Iechyd Meddwl cymunedol yn Y Drenewydd a’r Trallwng.

Mae tri oedolyn ifanc wedi ymgymryd â swyddi yn Uned Fan Gorau yn Y Drenewydd a Chanolfan Adnoddau Bryntirion yn Y Trallwng. Mae hwn yn rhan o gynllun Kickstart, a ariennir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd pedwerydd myfyriwr yn ymuno â nhw’n gynnar yr wythnos nesaf (16 Awst).

Byddan nhw’n rhoi cefnogaeth weinyddol i dimau sy’n helpu oedolion hŷn ac yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol i oedolion am 25 awr yr wythnos am y chwe mis nesaf. Fel rhan o’u lleoliadau gwaith byddan nhw’n ymgymryd â rhaglen o ddysgu a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol fydd eu hangen arnynt i weithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Trwy’r Academi mae Cynllun Kickstart yn cefnogi gweithwyr i greu swyddi ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol, sydd mewn perygl o ddiweithdra tymor hir. Yn ystod eu lleoliadau chwe mis, bydd myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant i’w helpu i gael gwaith yn y dyfodol a hyfforddiant oddi wrth fentor yn y gweithle.

Mae’r myfyrwyr newydd yn cynnwys Rhys Warburton, 21 oed, sydd wedi dechrau lleoliad gwaith yng Nghanolfan Adnoddau Bryntirion yn Y Trallwng. Mae e’n dod o Landysul ger Trefaldwyn. Cyn hyn buodd Rhys yn gwirfoddoli yn Siop Elusen Severn Hospice yn Y Drenewydd.

“Ro’n i’n falch dros ben o gael y lleoliad Kickstart yma,’ meddai Rhys. ‘Dw i’n gobeithio mynd ti i ddatblygu gyrfa mewn gwaith gweinyddu.’

Mae swyddi gwag Cynllun Kickstart ar gael trwy’r Academi ar gyfer cynorthwywyr arlwyo a chynorthwywyr/porthorion yn Llandrindod, Y Drenewydd, Ystradgynlais, Aberhonddu a’r Trallwng; ar gyfer cynorthwywyr gweinyddol yn Y Drenewydd a Bronllys; a gweithwyr cymorth gofal iechyd o fewn timau therapïau yn Y Drenewydd ac Aberhonddu. Bydd mwy o swyddi ar draws y sector iechyd a gofal ar gael yn y misoedd nesaf.

Os ydych yn uchel eich cymhelliant, yn ymroddgar ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i wasanaethau iechyd a gofal ym Mhowys, ac rydych yn gymwys ar gyfer Cynllun Kickstart, hoffen ni glywed gennych! Cysylltwch â’ch Hyfforddwr o’r Adran Gwaith a Phensiynau neu e-bostiwch: Powys.OD@wales.nhs.uk Mae dyddiadau dechrau ar gyfer lleoliadau gwaith ar gael tan ddiwedd y flwyddyn hon.

Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Mae’n cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Maen nhw’n cyd-weithio i wella iechyd a lles trigolion y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys: “Mae’n wych gweld prosiect  Kickstart yn helpu pobl ifanc leol gymryd eu camau cyntaf mewn gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad mawr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym yn gwybod bod llwybrau gwych ar gyfer pobl uchelgeisiol yn y sector hwn. Gobeithio y bydd y tri myfyriwr ifanc yma’n manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd gennym ym Mhowys.”

Bydd Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cyfleoedd wyneb yn wyneb a rhai digidol trwy bedair ysgol - Ysgol Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Ysgol Arweinyddiaeth, Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr, ac Ysgol Addysg Broffesiynol a Chlinigol a Hyfforddiant. Mae’r cyfleoedd ar gyfer gweithwyr yn y sector iechyd a gofal, y rheini sydd am gael gyrfa yn y sector, ac i wirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl sy’n cefnogi’r sector.

Mae hefyd yn cynnig cyngor a hyfforddiant i bobl sy’n edrych am yrfa newydd ym maes iechyd a gofal, gyda chymorth Grŵp Colegau NPTC, trwy Hwb Sgiliau Iechyd a Gofal Powys.

I wybod mwy, ffoniwch 0845 4086 253, e-bostiwch pathwaystraining(at)nptcgroup.ac.uk neu ewch i wefan Grŵp Colegau NPTC: Hwb Sgiliau Iechyd a Gofal Powys - Grŵp Colegau NPTC (nptcgroup.ac.uk)

Yn ogystal mae gan Academi Iechyd a Gofal Powys gyfleoedd ar gyfer gweithwyr cymorth gofal iechyd a fyddai’n gweithio o wardiau cleifion mewnol yn ysbytai’r sir. I ganfod mwy, neu i holi mwy am yr Academi, cysylltwch â: Powys.OD(at)wales.nhs.uk

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity