Cafodd y map rhyngweithiol ei ddatblygu ar y cyd gan Adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Epidemioleg Integreiddiol MRC ym Mhrifysgol Bryste a Sefydliad Alan Turing.
Mae'n gweithio drwy fapio gwybodaeth am fod yn agored i niwed, fel data ar achosion COVID-19 sy'n cylchredeg a nifer y bobl sydd mewn perygl mawr, yn erbyn lefelau o gymorth cymunedol a arweinir gan ddinasyddion ledled Cymru fel y nodwyd drwy ffynonellau cyfryngau cymdeithasol, cymunedau sy'n hunandrefnu a sefydliadau'r trydydd sector.
Gallwch weld y Map Ymateb COVID Cymru ar-lein yma.
Gallwch hefyd ddarllen y datganiad llawn i'r wasg yma.