Bydd oedolion ym Mhowys sy’n fyddar neu’n colli clyw yn gallu cysylltu â’r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622.
Bydd y tîm yn ateb gyda gwybodaeth ar bynciau megis asesiadau, technoleg gynorthwyol a’u cyfeirio at grwpiau gwirfoddol a chlinigau.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Gofalgar: “Mae mor bwysig fod ein cyd-ddinasyddion yn gallu cyfathrebu â ni, gofyn am wasanaethau, sôn am eu anghenion a chael eu clywed. Mae CYMORTH yn ffordd i ddinasyddion hŷn, pobl ag anableddau a gofalwyr di-dâl ofyn am wybodaeth, arweiniad a help gyda gofal a chymorth, i’w hunain neu eraill, felly rhaid iddo fod yn hwylus i bawb. Rwy mor falch y bydd pobl sy’n fyddar neu’n colli clyw yn gallu cysylltu â ni nawr drwy wasanaeth decstio.”
Am unrhyw wybodaeth a chyngor arall ar ofal a chymorth i oedolion, megis gwasanaethau i bobl hŷn, anableddau dysgu neu gorfforol, lles a diogelu, cysylltwch â CYMORTH ar 0345 602 7050.
Mae’r gwasanaeth tecstio hwn i bobl sy’n fyddar neu’n colli clyw sydd angen gwybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion.
Os oes gennych gais sydd ddim yn ymwneud â cholli clyw neu fyddardod, cysylltwch â CYMORTH yn uniongyrchol:-
Cymorth 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun – Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
Tîm Dyletswydd Argyfwng 0845 0544 847 (tu allan i oriau arferol)