Adroddiad newydd gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r cyntaf o'i fath i astudio effeithiau cronnol Brexit, coronafeirws a newid yn yr hinsawdd ynghyd â'u dylanwadau cyfunol ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau yng Nghymru.
Mae'r papur yn trafod amrywiaeth o ffactorau yr effeithir arnynt gan y tair her, gan gynnwys iechyd, economaidd, cymdeithasol a diogelwch, llesiant meddyliol, yr amgylchedd a mynediad at wasanaethau ac ansawdd y gwasanaethau hynny ac mae'n tynnu sylw at sut y bydd yr ‘her driphlyg’ hon yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar ymddygiad iechyd y boblogaeth, er enghraifft, deiet, maeth, teithio llesol ac alcohol.
Rhagor o wybodaeth:
https://phw.nhs.wales/publications/publications1/ymateb-i-her-driphlyg-brexit-covid-19-ar-newid-yn-yr-hinsawdd-i-iechyd-llesiant-a-thegwch-yng-nghymru/
https://phw.nhs.wales/publications/publications1/rising-to-the-triple-challenge-of-brexit-covid-19-and-climate-change-for-health-well-being-and-equity-in-wales/