Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth a ddarperir yn Ysbyty’r Sir yn Henffordd. Maen nhw'n edrych ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau strôc o safon uchel, gan gynnwys i'r cleifion maen nhw'n eu gwasanaethu ym Mhowys.
Cymerwch gipolwg ar y wybodaeth, a dweud eich dweud erbyn 11 Tachwedd 2022.
https://biap.gig.cymru/henffordd-stroc
Cefndir
Mae strôc yn gyflwr difrifol sy’n bygwth bywyd. Dyma brif achos marwolaeth ac anableddau yn y DU. Bydd tua un o bob chwech o bobl yn cael strôc yn ystod eu hoes, ac amcangyfrifir y bydd tua 30% o'r bobl sy'n cael strôc yn mynd ymlaen i brofi un arall rhywbryd.
Gyda’r driniaeth arbenigol, gofal a chefnogaeth gywir, gall bobl barhau i fyw bywydau llawn ac annibynnol.
O ganlyniad i natur wledig Powys, rydym yn defnyddio gwasanaethau ysbytai arbenigol gan siroedd cyfagos. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau strôc hyperacíwt ac acíwt.
Y prif ysbytai sy'n darparu gwasanaethau strôc hypercíwt ac acíwt i drigolion Powys yw:
- Ysbyty’r Sir yn Henffordd
- Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth
- Ysbyty Princess Royal yn Telford (mae'r gwasanaethau hyn ar fin symud i'r Amwythig fel rhan o'r gwaith o ad-drefnu gwasanaethau ysbyty yn Swydd Amwythig)
- Ysbyty Treforys yn Abertawe
- Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful
Mae adolygiad o'r gwasanaethau strôc yn Henffordd a Chaerwrangon ar y gweill ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth a ddarperir yn Ysbyty’r Sir yn Henffordd. Maen nhw'n edrych ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau strôc o safon uchel, gan gynnwys i'r cleifion maen nhw'n eu gwasanaethu ym Mhowys.
Maen nhw wedi datblygu golwg ar sut y gellid darparu'r gwasanaethau hyn yn y dyfodol. Eglurir hyn yn y Papur Materion ac wedi’i grynhoi yn y cyflwyniad ar lafar.
Nid yw'r cynigion hyn yn effeithio ar wasanaethau strôc arbenigol yn yr ysbytai eraill a restrir uchod. Nid ydynt chwaith yn effeithio ar ein gwasanaethau cymunedol lleol, na'n gwasanaethau adsefydlu strôc cleifion mewnol yn Aberhonddu a'r Drenewydd.
Mae’r Papur Materion ar gael yn fuan yn Gymraeg ac yn ffurf Hawdd ei Ddeall neu os hoffech y ddogfen mewn iaith neu ffurf wahanol, cysylltwch â thîm ymgysylltu Henffordd a Chaerwrangon ar hw.engage(at)nhs.net
Sut i leisio eich barn gyda’r Adolygiad ar Wasanaethau Strôc Henffordd a Chaerwrangon:
- Arolwg - Ar ôl ystyried y Papur Materion, gallwch leisio eich barn gan ddefnyddio arolwg ar-lein
- E-bost - Os hoffech rannu eich barn dros e-bost, cysylltwch â hw.engage(at)nhs.net
- Ffôn - Gallwch ffonio 0330 053 4356 a gofyn am y tîm ymgysylltu.
Efallai yr hoffech hefyd rannu eich barn gyda ni (Bwrdd Iechyd Addysgu Powys), a gyda Chyngor Iechyd Cymuned Powys sef y corff annibynnol statudol i gynrychioli budd y cyhoedd yn y GIG:
- Rhannwch eich barn gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: powys.engagement(at)wales.nhs.uk
- Rhannwch eich barn gyda Chyngor Iechyd Cymuned Powys: enquiries.powyschc(at)waleschc.org.uk
Bydd y cyfnod ymgysylltu yn dod i ben ar 11 Tachwedd 2022.
System Gofal Integredig Henffordd a Chaerwrangon (ICS)
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu ar ran System Gofal Integredig Henffordd a Chaerwrangon (ICS). Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr ICS ac yr adolygiad hwn ar gael yn eu gwefan ar https://www.hwics.org.uk/get-involved/involvement-opportunities/stroke-services