Llawn blas - ond beth arall?

Yr wythnos hon, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys wedi lansio ymgyrch newydd ar y cyd gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r niwed posibl o fêpio i bobl ifanc yn y sir

Mae ffigyrau diweddar gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn awgrymu, er bod nifer y bobl ifanc ym Mhowys sy'n ysmygu tybaco yn parhau i ostwng, mae Fêpio ar gynnydd. Ledled Cymru, mae 5% o bobl ifanc yn defnyddio fêps yn wythnosol, gydag 1 ym mhob 5 person ifanc ym Mhowys yn cyfaddef eu bod wedi rhoi cynnig ar fêpio.

Cafodd yr ymgyrch ei chyd-ddylunio gyda myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Crughywel, yn ogystal ag aelodau Clwb Ieuenctid Aberhonddu a Llandrindod, ac mae'n chwarae ar y lliwiau llachar a'r blasau ffrwythau a ddefnyddir wrth farchnata dyfeisiau fêpio. Mae'r ymgyrch yn gobeithio newid y gred bod fêpio yn cŵl, yn lanach ac yn ddiogel gan godi ymwybyddiaeth o'r niwed posibl o fêpio, ac annog pobl ifanc i geisio cymorth i roi'r gorau i fêpio.

Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae'n anghyfreithlon i bobl dan 18 oed brynu sigaréts nicotin neu eu prynu ar eu cyfer. Nid yw fêpio heb ei niweidion. Yn syml, nid oes gennym ddigon o dystiolaeth i wybod yr effeithiau hirdymor y mae fêpio yn ei chael ar ein hiechyd a'n lles. Ni ddylai ymennydd sy'n datblygu fod yn agored i nicotin, mae'n peri risg o ddatblygu caethiwed. Y neges syml yw, os nad ydych chi'n ysmygu, yna ni ddylech chi ddechrau fêpio. Byddwn yn annog rhieni i rannu'r ymgyrch yn eang, ac i drafod y risgiau o fêpio gyda'u plant, i godi ymwybyddiaeth o'i niwed posibl, a chefnogi atal argyfwng iechyd cyhoeddus yn y dyfodol".

Dywedodd Matt Perry, Prif Swyddog Cyngor Sir Powys, "Mae'n hanfodol bod y meddylfryd o amgylch fêpio, nid yn unig ar draws y sir, ond ledled y wlad, yn cael ei newid, ac mae'n wych ein bod yn gallu gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddatblygu'r ymgyrch hon a'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r niwed posibl o fêpio.

"Nid yw'r ffaith bod y ddyfais yn lliwgar â blas ffrwytha yn golygu ei bod yn dod heb risgiau. Mae'n dod gyda rhestr o'i sgîl-effeithiau a goblygiadau iechyd ei hun. Mae'r ymgyrch hon yn adlewyrchu ein dull partneriaeth cryf i amddiffyn iechyd ein trigolion."

Bydd yr ymgyrch i'w gweld ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a safleoedd gweithredol Cyngor Sir Powys, ysgolion uwchradd a safleoedd bysys ym Mhowys. Bydd y deunyddiau hefyd yn gallu cael eu lawrlwytho ar-lein.

Am fwy o wybodaeth ar yr ymgyrch neu i geisio cymorth ar roi gorau i fêpio, ewch i: biap.gig.cymru/aros-yn-iach/ysmygu/vaping/

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity