Lansio ap COVID-19 y GIG yng Nghymru a Lloegr

Mae ap COVID-19 y GIG yn lansio 24 Medi ar draws Cymru a Lloegr a bydd yn hanfodol i helpu i ddiogelu Cymru

Rydym yn annog pobl yng Nghymru i lawrlwytho a defnyddio'r ap. Y mwyaf o bobl sy'n lawrlwytho’r ap, y mwyaf y bydd yn helpu i leihau a rheoli lledaeniad COVID-19.

Nodweddion yr ap yw:

  • Olrhain - Cewch rybudd os ydych wedi bod wrth yml defnyddwyr eraill gafodd brawf coronafeirws positif
  • Rhybudd - Cewch wybod lefel y risg yn eich ardal cod post
  • Cofnodi i mewn - Cewch rybudd os ydych wedi bod i rywle lle'r oedd coronafeirws
  • Symptomau - Gwiriwch eich symptomau coronafeirws i weld a oes angen archebu prawf am ddim
  • Prawf- Help gyda bwcio prawf a chanlyniad cyflym
  • Ynysu - Cadw trac ar eich cyfnod hunanynysu a chyngor perthnasol

Mae'r ap yn cefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru a bydd yn gweithio ochr yn ochr â’r system olrhain cysylltiadau bresennol. 

Gallwch ddarllen y datganiad i'r wasg yma.

Mae amrywiaeth o ddeunyddiau ar gael i chi eu lawrlwytho a'u rhannu gyda'ch rhwydwaith ac ar eich sianeli cyfathrebu.

Mae fideos am yr ap, yn cynnwys fideos amlieithog, ar gael yma

Beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau

Dydy’r ap ddim yn cymryd lle yr angen i fusnesau risg uchel ledled Cymru gofnodi manylion cwsmeriaid ac ymwelwyr â’u safleoedd.

Cofiwch, mae dal yn gyfraith yng Nghymru i fusnesau risg uchel gofnodi eu hymwelwyr a chadw’r manylion am 21 diwrnod.

Mae hyn yn cynnwys tafarndai, bwytai, gwasanaethau cyswllt agos fel salonau trin gwallt a siopau barbwr, canolfannau hamdden dan do a champfeydd, sinemâu, casinos a neuaddau bingo.

Am ragor o wybodaeth am yr ap ac i lawrlwytho'r cod QR unigryw ar gyfer eich busnes, ewch I https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig-canllawiau-i-fusnesau-sefydliadau

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity