Os felly, ac os oes gennych benderfyniad, ymroddiad ac awydd i wneud gwahaniaeth, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig cyfleoedd i chi. Fel rhan o Fframwaith Strategol Dyfodol Gweithlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, mae cyfleoedd i wneud gradd nyrsio ran-amser dros bedair blynedd mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel gweithwyr cymorth gofal iechyd am ddau ddiwrnod yr wythnos. Trwy hyn byddant yn dysgu sgiliau ymarferol ac yn treulio tri diwrnod arall yr wythnos yn astudio neu ar leoliadau clinigol fel myfyrwyr nyrsio.
Fel rhan o'r rhaglen, telir eich holl ffioedd prifysgol a byddwch yn ennill cyflog gweithiwr cymorth gofal iechyd llawn amser – sy'n amrywio rhwng £18,185 a £19,337 y flwyddyn ar hyn o bryd.
Dywedodd Julie Rowles, Cyfarwyddwr Datblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad a Gwasanaethau Cefnogol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, "Dyma gyfle bendigedig i ddechrau hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn nyrsio’n lleol mewn ffordd gefnogol a hyblyg. Gallwn sicrhau y bydd gennych swydd nyrs gofrestredig gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar ddiwedd eich astudiaethau."
"Rydym yn awyddus i gynyddu nifer y nyrsys talentog sydd wedi'u hyfforddi'n lleol rydym yn eu cyflogi ym Mhowys. Mae'r swyddi hyn yn gyfle i ennill wrth i chi ddysgu heb orfod deithio y tu allan i'r sir i gwblhau eich hyfforddiant."
I wneud cais, ewch i:
- Gwefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn Unig): https://pthb.nhs.wales/working-for-us/current-jobs/#!/job/UK/Powys/TBC/Powys_Teaching_Health_Board/Healthcare_Support_Worker_Nurse_Training/Healthcare_Support_Worker_Nurse_Training-v3318582?_ts=245
- Neu wefan Swyddi'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol: https://www.jobs.nhs.uk/xi/vacancy/916636958
Oherwydd gofynion y Brifysgol Agored a Bwrdd Iechyd Addysgu Powts, nid yw’r cyfleoedd hyn ond ar gael i ymgeiswyr sy’n mynegi diddordeb sy’n ddeunaw oed neu hŷn, ac mae'n cau ar 30 Awst.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katelyn Falvey: Katelyn.Falvey2(at)wales.nhs.uk neu ffoniwch 07970 422146.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn cynnwys ystod o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys. Mae’r mudiadau hyn yn cydweithio i wella iechyd a lles trigolion y sir.