Helpwch ni i gael y cerdyn newydd, y Cerdyn Gweithiwr Gofal, i weithwyr nad ydynt ar ein Cofrestr

Fel arweinydd yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, byddem yn ddiolchgar petaech chi’n ein helpu i roi gwybod i weithwyr anghofrestredig eu bod yn gallu cofrestru ar gyfer cerdyn newydd, y Cerdyn Gweithiwr Gofal

 

Efallai y gwyddoch fod y Cerdyn Gweithiwr Gofal yn fersiwn newydd o gerdyn a lansiom yn wreiddiol fis Ebrill diwethaf i gydnabod bod gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yn weithwyr allweddol, ac i gynnig rhai buddion, fel trefniadau siopa blaenoriaethol. Mae'r cerdyn hwnnw'n gorffen bod yn ddilys o 1 Mai 2021.

Yn yr un modd â’r cerdyn gwreiddiol, mae’r Cerdyn Gweithiwr Gofal newydd i bawb sy’n cael ei gyflogi mewn rôl ofal yng Nghymru, nid dim ond y rheiny ar ein Cofrestr.

A dyna lle mae angen eich helpu chi arnom. Byddem yn ddiolchgar am eich cymorth i roi gwybod bod y Cerdyn Gweithiwr Gofal ar gael i weithwyr yn eich sefydliad, neu trwy wasanaethau wedi’u comisiynu, nad ydynt ar ein Cofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol. Gallai’r rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • weithwyr cymorth gofal cymdeithasol
  • gweithwyr cymorth cysylltu bywydau
  • gofalwyr maeth
  • cynorthwywyr personol.

Anfonwch yr e-bost hwn ymlaen at bobl yn eich timau nad ydynt ar ein Cofrestr er mwyn iddynt gael eu Cerdyn Gweithiwr Gofal. Gallant gael y cerdyn digidol trwy gofrestru yma.

Ni ddylai unrhyw un arall ddefnyddio’r cerdyn hwn. Dylai pob deiliad cerdyn fod yn barod i ddefnyddio’r cerdyn hwn ochr yn ochr â math o wybodaeth adnabod â llun, fel trwydded yrru neu gerdyn y gweithle. Bydd hyn yn caniatáu i sefydliadau wirio pwy yw’r unigolyn, os bydd angen.

Mae Cerdyn Gweithiwr Gofal yn wahanol i’r cerdyn gwreiddiol gan ei fod yn cynnig mynediad at gerdyn arian yn ôl, yn ogystal ag amrywiaeth o gynigion manwerthu, trwy Discounts for Carers.

Gall deiliaid Cerdyn Gweithiwr Gofal ei ddefnyddio’n dystiolaeth o’u cyflogaeth yn y sector gofal yng Nghymru os penderfynant wneud cais am gerdyn arian-yn-ôl gan Discounts for Carers. Mae gwybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer y cynigion sydd ar gael yn y Cwestiynau Cyffredin.

Rydym wedi cysylltu â Discounts for Carers oherwydd bod deiliaid cerdyn wedi dweud wrthym mewn arolwg yr hydref diwethaf mai’r buddion ychwanegol y byddent yn eu gwerthfawrogi fwyaf fyddai cynigion manwerthol.

Credwn yn gryf fod pawb sy’n gweithio mewn gofal yng Nghymru’n haeddu mwynhau buddion tebyg i weithwyr allweddol mewn proffesiynau eraill, fel y gwasanaethau brys ac iechyd, ni waeth beth yw maint y sefydliad sy’n eu cyflogi.

Ond nid dim ond cerdyn i’r pandemig yw hwn. Mae’n rhywbeth mwy hirdymor. Mae’n adlewyrchu’r ffaith bod ein gweithwyr gofal yn weithwyr allweddol sy’n cyflawni rôl hanfodol wrth gefnogi pobl ym mhob cymuned yng Nghymru 24/7, o flwyddyn i flwyddyn, nid dim ond mewn argyfwng fel y pandemig.

Ynghyd â’r cerdyn arain yn ôl a chynigion manwerthol, bydd trefniadau siopa blaenoriaethol mewn archfarchnadoedd penodol ar gael i ddeiliaid cerdyn, lle bo’r trefniadau hynny ar waith o hyd. Hefyd, byddwn yn parhau i roi gwybod i ddeiliaid cerdyn am unrhyw adnoddau, fel apiau symudol, y gallant eu defnyddio i helpu i gynnal eu lles corfforol a meddyliol yn ystod ac ar ôl y pandemig hwn.

Er bod y cerdyn newydd ar gael ar ffurf fersiwn ddigidol yn unig, gall pobl heb ffôn clyfar gael yr un buddion os oes ganddynt gyfeiriad e-bost a chysylltiad â’r rhyngrwyd. Caiff hyn ei esbonio yn y Cwestiynau Cyffredin.

Rydych chi a’ch staff wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol dros y cyfnod argyfwng estynedig hwn ac rydych chi’n parhau i wneud hynny. Rydym ni’n cydnabod hyn ac yn ei werthfawrogi’n fawr. Trwy eich gwaith gwych, rydych wedi helpu’r cyhoedd i amgyffred y sector gofal ehangach gyda pharch a diolchgarwch newydd.

Diolch ymlaen llaw i chi am helpu i godi ymwybyddiaeth o’r Cerdyn Gweithiwr Gofal newydd

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity