Mae hyn yn cynnwys ‘Gwobr Sêr Powys’ sy’n cael eu henwebu gan aelodau’r cyhoedd.
Mae’r categori hwn yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd i enwebu pobl sydd, yn eich tyb chi, wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyl i ddarparu iechyd a gofal iechyd gorau ym Mhowys.
[NB Os ydych yn aelod o staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ac rydych am enwebu ar gyfer categoriau eraill, edrychwch ar y wybodaeth am Wobrau Rhagoriaeth Staff ar y fewnrwyd]
Gallwch chi enwebu unigolyn neu dîm ar gyfer gwobr. Rhaid eu bod yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym Mhowys (yn aelod o staff neu’n gwirfoddoli).
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 31 Mawrth 2020. Bydd y beirniaid yn penderfynu ar yr enillwyr rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mai 2020. Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal ar 3 Gorffennaf. Os ydych yn enwebu'r enillydd gwobr Seren Powys byddwch chi’n cael eich gwahodd i’r seremoni hefyd.
Enwebwch heddiw: