Mae Rhaglen Gwella’r Daith Ganser wedi llwyddo i ddiwallu amcanion Cam 1 ac erbyn hyn yn edrych at Gam 2
Gan edrych ymlaen at Gam 2, fe wnawn barhau i sicrhau fod sgyrsiau cefnogol i bobl sy’n byw â chanser wrth wraidd ein gwaith, a cheisio ehangu’r cynnig i mwy o bobl sydd wedi derbyn diagnosis o ganser. Hefyd, bydd y Rhaglen yn edrych i ehangu’r cymorth cofleidiol i bobl sy’n byw â chanser i’w galluogi i wella’u hiechyd a lles, cadernid a chanlyniadau trwy gynyddu gweithgareddau a derbyn cymorth yn unol â rhagsefydlu.