Hoffech chi ddychwelyd i ymarfer?
Yma ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys gallwn eich helpu i “ddychwelyd i ymarfer” yn un o rannau harddaf y DU.
Nyrsio:
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Phrifysgolion ledled Cymru (Bangor, Caerdydd, Glyndwr, Abertawe, Prifysgol De Cymru) i gefnogi dychwelyd i ymarfer
Mae'r cwrs dychwelyd i ymarfer yn cynnig cyfle gwych os ydych chi wedi cyflawni rôl nyrs gofrestredig o'r blaen i ddychwelyd i'r proffesiwn.
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu, adnewyddu a gwella'r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd proffesiynol a'r hyfedredd sy'n ofynnol gan Nyrs Gofrestredig ac i ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn eich maes ymarfer.
Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd:
Ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sy'n dychwelyd i ymarfer, gallwch gael cefnogaeth y Bwrdd Iechyd i fodloni'r gofynion ar gyfer cofrestru HCPC.
Gall cyrsiau dychwelyd i ymarfer cymryd rhwng 3 a 12 mis fel rheol.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â'n Tîm Addysg Glinigol: Clinical.Education.Powys(at)wales.nhs.uk