Annwyl randdeiliad allweddol
Hoffwn ddiolch i chi am eich adborth yng Ngham 2 Adolygiad Gwasanaeth EMRTS sydd wedi dod i ben yr wythnos yma.
Mae’r ail gam hwn, a ddechreuodd ym mis Hydref 2023, wedi canolbwyntio unwaith eto ar wrando ar eich sylwadau, eich ymholiadau a chasglu adborth ar yr opsiynau a ddatblygwyd o’ch adborth Cam 1.
Wrth i Gam 2 ddod i ben, mae rhai pwyntiau yr hoffwn dawelu eich meddwl yn eu cylch:
Rwyf wedi pwysleisio drwy gydol y ddau gyfnod ymgysylltu mai pwrpas yr Adolygiad hwn yw sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn elwa ar y canlyniadau clinigol rhagorol;
Yn bwysig, mae hyn yn golygu y bydd y rhai sy’n derbyn y gwasanaeth nawr yn parhau i dderbyn y gwasanaeth yn y dyfodol, mae hyn yn
ymwneud ag adeiladu ar lwyddiant y gwasanaeth er mwyn i fwy o bobl elwa o'r ymyriadau gofal critigol a ddarperir yn fan a'r lle;
Rwyf hefyd wedi pwysleisio nad yw hyn ‘yn ymwneud â niferoedd yn unig’: mae’r modelu yn arf defnyddiol wrth ystyried yr holl ffactorau yn gyfannol o fewn y fframwaith gwerthuso cyffredinol;
Pwysleisiais ar ddiwedd Cam 1 o ymgysylltiad Adolygiad Gwasanaeth EMRTS nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud o’r blaen ar y mater hwn ac mae hynny wedi parhau i fod yn wir yn ystod Cam 2.
Nawr bod ffenestr Cam 2 wedi cau, mae eich adborth yn cael ei ddadansoddi'n thematig.
Ochr yn ochr â’ch adborth, bydd yr opsiynau a ddatblygir yn cael eu rhoi ar restr fer a’u hasesu drwy’r fframwaith gwerthuso y cytunwyd arno. Bydd canlyniad y gwerthusiad yn arwain at opsiwn a argymhellir i'r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ei ystyried a phenderfynu arno yn y pen draw.
Mae gennych fy ymrwymiad parhaus i gwblhau’r Adolygiad hwn gyda’r trylwyredd a’r uniondeb y mae’n eu haeddu.
Fy niolch diffuant unwaith eto am eich diddordeb, amser, a chyfraniadau gwerthfawr ar y mater pwysig hwn.
Diolch yn fawr.
Cofion gorau
Stephen Harrhy
Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans