Cafodd ‘Dyfodol y Gweithlu, Fframwaith Strategol Iechyd a Gofal ei gomisiynu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, a dyma’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Mae’r fframwaith yn esbonio sut y bydd partneriaid ar draws Powys yn dylunio modelau gweithlu sy’n denu ac yn cadw rhagor o staff, trwy arweinyddiaeth well, hyfforddiant, dysgu a datblygiad gwell, cefnogaeth i lesiant, a gweithio parhaus mewn partneriaeth ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
Ychwanegodd Carol Shillabeer, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys: “Mae’n rhoi pleser mawr i mi lansio’r fframwaith strategol hon. Rydym angen trawsnewid y ffordd yr ydym yn cyflwyno gofal ym Mhowys a’n gweithlu yw’r ffactor pwysicaf un wrth wneud hyn.
“Nid yw ein gweithlu iechyd a gofal yn cynnwys staff o’r bwrdd iechyd a’r cyngor sir yn unig; mae’n llawer ehangach na hynny.
“Mae’n cynnwys pobl sy’n gweithio ar draws y sector preifat, annibynnol a’r trydydd sector, ynghyd â gwirfoddolwyr a gofalwyr sy’n chwarae rhan arwyddocaol wrth gyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal.
“Mae dros 300 o bobl o bob cwr o’r sectorau hyn wedi cael dweud eu dweud ac wedi helpu i siapio cynlluniau’r dyfodol a fydd yn arwain at ddeilliannau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr fel ei gilydd.
“Oherwydd hyn, rydym yn gwybod fod y fframwaith strategol yn adlewyrchu safbwyntiau ein gweithlu tra’n alinio gyda’r amcanion tymor hir o fewn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys: Powys Iach Ofalgar’.”
Dywedodd Julie Rowles, Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Trefniadaethol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Mae ein gweithlu yn parhau i weithio’n ddiwyd i gyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal rhagorol ym Mhowys.
“Mae’r fframwaith strategol yn amlygu ein hymrwymiad i gefnogi a buddsoddi yn ein gweithlu, gan sicrhau ein bod mewn cydweithrediad yn cyflwyno gwasanaethau gyda hyder yn ein cymunedau.”
Dywedodd Ness Young, Cyfarwyddwr Corfforaethol (Adnoddau a Thrawsnewid) o fewn Cyngor Sir Powys: “Ein gweithwyr yw ein hased mwyaf ac rydym eisiau i’n gweithwyr fod yn hyderus, yn fedrus ac wedi’u cefnogi’n dda.
“Mae’r cynlluniau yn esbonio sut y byddwn yn buddsoddi yn y gweithlu fel bod pobl mor effeithiol ag sy’n bosibl yn eu rolau ac yn helpu i gyflwyno ein blaenoriaethau.”
“Mae’n rhoi’r sylfaeni yn eu lle i sicrhau fod gweithlu cymwys, amrywiol ac iach gennym ni a all gyflwyno gofal gwych tra’n mwynhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.”
Darllenwch y fframwaith strategaeth yma: www.powysrpb.org/workforce-futures