"Mae'r galw am frechlyn rhag y ffliw yr hydref hwn yn sylweddol uwch nag a welsom mewn blynyddoedd blaenorol. Ac oherwydd bod y galw'n uchel iawn, gall gymryd mwy o amser i gael apwyntiad ar gyfer brechiad rhag y ffliw.
Gall holl drigolion Cymru sy'n gymwys i gael y brechlyn rhag y ffliw am ddim gan y GIG ar hyn o bryd fod yn sicr bod digon o frechlynnau wedi'u harchebu eleni. I wirio eich cymhwysedd i gael brechlyn rhag y ffliw am ddim gan y GIG ewch i www.curwchffliw.org.
Mae'r cyflenwad o frechlyn wedi'i wasgaru drwy gydol tymor y ffliw, sy'n digwydd bob blwyddyn.
Gyda mesurau diogelwch COVID-19 yn eu lle, gall apwyntiadau ar gyfer brechlyn rhag y ffliw eleni gymryd ychydig mwy o amser nag arfer. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae mwy o glinigau'n cael eu cynnal.
Eleni mae Llywodraeth Cymru wedi cael brechlynnau ffliw ychwanegol sydd i fod i gyrraedd ym mis Tachwedd. Defnyddir hyn i sicrhau bod y defnydd yn y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf mor uchel â phosibl. Yna cynigir y brechlyn i'r rhai o dan 65 oed fesul cam, gyda'r uchelgais o frechu i lawr i bobl 50 oed, os bydd lefelau stoc yn caniatáu hynny.
Rydym yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar gyda fferyllfeydd cymunedol a meddygfeydd sy'n gweithio'n galed i drefnu apwyntiadau wrth i'w cyflenwadau gyrraedd, ac wrth i fwy o apwyntiadau ddod ar gael.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod yr ymgyrch ymhellach drwy:
hannah.lindsay(at)wales.nhs.uk a jodie.phillips2(at)wales.nhs.uk "