Canolfan profi cyflym COVID-19 i bobl heb symptomau yn dod i'r Drenewydd yn ystod mis Mehefin

Mae gwasanaeth profi cyflym newydd i bobl heb symptomau COVID-19 yn dod i'r Drenewydd am bedair wythnos o 7 Mehefin

Gall pobl sy'n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal y Drenewydd alw heibio i Ganolfan Ddydd Stryd y Parc yn y Drenewydd rhwng 10am a 6pm, saith diwrnod yr wythnos am brawf am ddim.

Bydd y rhaglen beilot hon yn helpu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys i ddeall mwy am ledaeniad coronafeirws yn y sir, ac i atal achosion yn y dyfodol.

Meddai Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:

"Rydyn ni'n gwybod y gall un o bob tri o bobl gael coronafeirws heb arddangos y symptomau clasurol, sef tymheredd uchel, peswch parhaus newydd a cholli neu brofi newid mewn arogl neu flas. Felly, bydd y rhaglen hon yn ein helpu i gasglu darlun cynhwysfawr iawn o’r coronafeirws yn ardal y Drenewydd. Bydd y wybodaeth a gasglwn yn ein helpu i Ddiogelu Powys, ac rydym yn gobeithio y bydd yn ein cefnogi ni i gyd tuag at gamau pellach i leddfu'r cyfyngiadau ar ein bywydau bob dydd.

"Er bod achosion coronafeirws yn ardal y Drenewydd yn isel iawn ar hyn o bryd, rydym hefyd yn gwybod bod amrywiolion newydd yn fygythiad parhaus i bob un ohonom yng Nghymru. Mae profi pobl heb symptomau (profion asymptomatig) yn arf defnyddiol i nodi unrhyw amrywiolion newydd ac i'n helpu i'w hatal."

Bydd y ganolfan profi asymptomatig yn defnyddio profion llif unffordd i wirio am bresenoldeb coronafeirws. Bydd unrhyw un sy'n profi’n bositif gyda’r prawf llif unffordd yn cael ei gyfeirio at ganolfan profi'r dref ar gyfer prawf PCR.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Baynham, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Wasanaethau Rheoleiddio:

"Mantais allweddol wrth ddewis y Drenewydd fel lleoliad ein canolfan profi asymptomatig yw'r gallu i gyfeirio pobl yn gyflym am brawf PCR yn y dref.

"Yn ogystal â'n helpu i ddeall mwy am ledaeniad coronafeirws ym Mhowys, bydd hwn yn gyfle hanfodol i ni dreialu'r math hwn o ganolfan profi torfol mewn lleoliad gwledig. Bydd profion yn parhau i fod yn hanfodol i atal tonnau pellach o’r coronafeirws yn y dyfodol, ac i atal unrhyw bandemig pellach. Felly, bydd ein profiad o redeg canolfan profi asymptomatig yn y Drenewydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein parodrwydd ar gyfer y dyfodol. Bydd yn golygu bod gennym fodel profedig o brofion cymunedol y gallwn eu rhoi ar waith yn gyflym os byddwn yn wynebu achosion yn y dyfodol."

"Rydym yn annog pawb i alw draw i gymryd y prawf. Mae ein canolfan ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 6pm yng Nghanolfan Ddydd Stryd y Parc tan 4 Gorffennaf. Gallwch alw heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 6pm."

Mae Cymru gyfan ar lefel rhybudd 2, ac mae'n hanfodol i bob un ohonom barhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf i atal lledaeniad Coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys dilyn rheolau pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb.

Mae datblygiadau'r ganolfan yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cyngor Sir Powys, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Llywodraeth Cymru.

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pobl heb symptomau COVID-19. Dylai pobl sydd â symptomau barhau i archebu prawf yn ein canolfannau profi ledled Powys neu ofyn am brawf drwy'r post drwy ymweld â www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffonio 119 (7am i 11pm). Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Beth i'w wneud cewch chi ganlyniad positif prawf llif unffordd

  • Os cewch chi brawf llif unffordd positif, mae'n rhaid i chi hunanynysu'n syth am 10 diwrnod, a chael prawf PCR mewn canolfan brofi o fewn 24 awr.  Gallwch archebu prawf ar-lein ar GOV.UK, ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (mae galwadau am ddim) neu drwy ap COVID-19 y GIG.
  • Os yw'ch prawf PCR yn negyddol ac wedi ei gymryd o fewn 24 awr o'ch prawf llif unffordd, gallwch orffen hunanynysu.
  • Os oedd eich prawf PCR yn negyddol ond wedi ei gymryd dros 24 awr ar ôl eich prawf llif unffordd, mae'n rhaid i chi a'ch cysylltiadau barhau i hunanynysu am y 10 diwrnod llawn o ddyddiad gwreiddiol y prawf llif unffordd.
  • Os cewch chi brawf PCR positif a'i fod wedi ei gymryd o fewn 24 awr o'ch prawf llif unffordd, mae'n rhaid i chi barhau i hunanynysu am 10 diwrnod o ganlyniad y prawf llif unffordd gwreiddiol.
  • Os na fyddwch yn cael prawf PCR o fewn 24 awr, mae'n rhaid i chi hunanynysu am 10 diwrnod.

Mae rhagor o wybodaeth am brofion llif unffordd yng Nghymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Profion llif unffordd COVID-19 ar gyfer pobl heb symptomau | LLYW.CYMRU

Mae rhagor o wybodaeth am brofion coronafeirws ym Mhowys ar gael yn https://biap.gig.cymru/yma/pod

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity