Beth yw’r ffordd orau i ni ddarparu gofal a chymorth cynaliadwy i helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus?

Gosod y blaenoriaethau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru

Beth yw nod y prosiect?

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau canfod y blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal a chymorth cymdeithasol i bobl 65 oed a hŷn. Maent wedi lansio arolwg ar gyfer pobl 65 oed a hŷn yng Nghymru sydd wedi cael gofal neu gymorth, a gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr ac aelodau teulu sy’n rhoi’r gofal hwnnw. 

Maent eisiau darganfod beth yw’r pryderon mwyaf, o safbwynt pobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl sy’n eu cefnogi.

Yna byddant yn gweithio gyda’r grwpiau hynny i flaenoriaethau’r rhai y maent yn credu sydd fwyaf pwysig i ymchwil fynd i’r afael â nhw. Y nod yw datblygu agenda ymchwil gofal cymdeithasol a fydd yn galluogi pobl hŷn yng Nghymru i fyw bywydau hapusach, mwy boddhaus.

Maent yn gweithio mewn cysylltiad â’r James Lind Alliance, gan ddefnyddio eu dull o flaenoriaethu ymchwil.

Sut i gymryd rhan

Cymerwch ran yn yr arolwg. Bydd yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau ac mae ar gael rhwng 8 Mehefin a 6 Gorffennaf 2020. www.ymchwiliechydagofal.llyw.cymru/newyddion////gosod-y-blaenoriaethau-ar-gyfer-ymchwil-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru/. Mae eich barn yn bwysig!

Os yw’n briodol, hoffem hefyd eich annog i’w ddangos i’r bobl hŷn yr ydych yn gweithio gyda nhw a’u helpu i gymryd rhan hefyd. Rydym yn hapus i dderbyn cyfraniadau yn seiliedig ar drafodaethau grŵp am gwestiynau’r arolwg, yn enwedig ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu llenwi arolwg ar-lein. Rydym eisiau sicrhau bod ystod eang o leisiau’n cael eu clywed. Os ydych chi’n gallu gweithio gyda ni a chefnogi’r arolwg mewn unrhyw fodd, e-bostiwch healthandcareresearch@wales.nhs.uk. 

Mae eich barn yn bwysig.

Wrth wneud ymchwil yn y dyfodol, rydym eisiau i’r ymchwil honno wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn yng Nghymru, a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth y maent yn ei gael. Mae eich profiadau chi a’ch cwestiynau chi am ofal cymdeithasol yn ganolog i’r prosiect hwn.

Diolch am eich cymorth.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity