Ateb yr Heriau mewn Gwasanaethau Podiatreg ym Mhowys: Ailddynllunio Gwasanaethau ar gyfer y Dyfodol

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ceisio barn ar y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau podiatreg ym Mhowys yn y dyfodol.

 

 

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ceisio barn ar y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau podiatreg ym Mhowys yn y dyfodol.

 

Gallwch ddarganfod mwy yn ein dogfen ymgysylltu sydd ar gael ar ein gwefan drwy www.biapowys.cymru.nhs.uk/ymgysylltu-a-podiatreg

 

Mae'r ddogfen ymgysylltu yn esbonio'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth, y camau rydyn ni eisoes wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r heriau, y materion rydyn ni'n dal i'w hwynebu, a chynigion ar gyfer y dyfodol.

Mae arnom angen eich barn fel y gallwn wneud y penderfyniadau gorau er mwyn cynnal gwasanaethau podiatreg ym Mhowys.

Os hoffech gael rhagor o wydbodaeth, neu os hoffech gael y wybodaeth hon mewn iaith neu fformat amgen, cysylltwch â ni drwy powys.engagement(at)wales.nhs.uk

Rydym yn croesawu eich barn erbyn 29 Mawrth 2020.

Gallwch rannu eich adborth gan ddefnyddio'r holiadur yn y ddogfen ymgysylltu, neu ddefnyddio ein harolwg ar-lein drwy

www.smartsurvey.co.uk/s/PodiatregPowys  

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity