Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd.
Gofynnwyd i drigolion yng Nghymru am eu barn ar ystod o bynciau iechyd y cyhoedd. Roedd yr arolwg yn canolbwyntio ar bynciau'n ymwneud ag iechyd a llesiant plant, gan gynnwys cwestiynau sy'n berthnasol yn benodol i rieni. Er mwyn gwella cyfranogiad rhieni yn yr arolwg, recriwtiwyd sampl ychwanegol o rieni gymryd rhan yn yr arolwg yn ogystal â sampl arferol o’r boblogaeth gyffredinol
Canolbwyntiodd arolwg mis Chwefror ar y chwe phwnc a ganlyn: anghenion gwybodaeth magu plant, canfyddiadau o fwydo ar y fron, rôl lleoliadau addysg mewn iechyd plant, strategaethau ymddygiad plant, llesiant meddwl, a defnyddio technoleg gyda’r teulu a ffrindiau.
Mae’r canfyddiadau allweddol canlynol o’r sampl poblogaeth gyffredinol wedi’u hamlygu ar y dudalen grynodeb:
Anghenion o ran gwybodaeth am fagu plant
Y tri math uchaf (o ddeg) o wybodaeth am blant yr oedd pobl yn meddwl eu bod yn 'bwysig iawn' i rieni eu cael gan y GIG oedd:
Canfod arwyddion o salwch difrifol mewn plant (93%)
Sut i roi cymorth cyntaf (87%)
Cefnogi sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant (83%)
Canfyddiadau am fwydo ar y fron
Dywedodd 58% o bobl eu bod yn meddwl bod bwydo ar y fron yn 'bwysig iawn' i iechyd a datblygiad babanod, ac roedd 31% o’r farn ei fod yn weddol bwysig.
Rôl lleoliadau addysg
O’r naw maes iechyd a llesiant plant, y rhai y dywedodd y rhan fwyaf o bobl eu bod yn ‘cefnogi’n gryf’ i leoliadau addysg gael rôl ynddynt oedd:
Cefnogi diogelwch ar-lein (77%)
Atal ysmygu a fepio (76%)
Cael cymorth ar gyfer anawsterau iechyd meddwl (74%)
Atal camddefnyddio alcohol a chyffuriau (74%)
Strategaethau ymddygiad plant
Y tair strategaeth rheoli ymddygiad plant uchaf (o ddeg) y nododd pobl eu bod yn 'effeithiol iawn' oedd:
Canmol ymddygiad da (74%)
Gwobrwyo ymddygiad da (65%)
rhesymu gyda phlentyn (48%)
Dim ond 5% oedd yn ystyried bod cosb gorfforol yn 'effeithiol iawn'
Dywedodd 91% o bobl eu bod yn gwybod bod pob dull ar gosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Llesiant meddyliol
Dywedodd 37% o bobl eu bod yn cymryd 'llawer' o gamau i helpu i amddiffyn a gwella eu llesiant meddyliol; roedd 50% yn cymryd 'ychydig' o gamau ac nid oedd 12% yn cymryd unrhyw gamau.
Y defnydd a wneir o dechnoleg gyda theulu a ffrindiau
Dywedodd 41% o bobl bod y defnydd a wneir o dechnoleg gan eu partner wedi cael effaith negyddol ar eu perthynas o leiaf rywfaint o’r amser, a dim ond 34% oedd â’r farn hon pan ofynnwyd iddynt am effaith eu defnydd nhw eu hunain o dechnoleg ar eu perthynas â’u partner.
Dilynwch y ddolen hon i weld yr adroddiad llawn: Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Chwefror 2024 Canfyddiadau Arolwg Panel
Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau 1,261 o drigolion yng Nghymru o’r boblogaeth gyffredinol (16 oed a hŷn), yn ogystal â chanfyddiadau gan rieni plant o dan 18 oed, sy’n cynnwys 263 o rieni o’r sampl boblogaeth gyffredinol a 454 o rieni o’r sampl ychwanegol o rieni (cyfanswm y sampl = 717 o rieni). I gael rhagor o wybodaeth am Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, ewch i dudalen we'r prosiect.