Mae gwybodaeth am y newidiadau rydym wedi'u gwneud i sgrinio yn ystod pandemig y coronafeirws ar gael ar bob un o wefannau'r rhaglenni sgrinio o dan yr adran ‘Sgrinio yn ystod Pandemig Coronafeirws.’
Mae'r wybodaeth hon ar gael mewn fersiwn Hawdd ei Darllen ac yn Iaith Arwyddion Prydain.
Mae'r swyddogaeth hygyrchedd Recite Me* bellach ar gael ar holl wefannau rhaglenni sgrinio i ddiwallu anghenion pobl â gwahanol anghenion cyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys teclyn cyfieithu sy'n cyfieithu cynnwys i dros 100 o ieithoedd ac sydd â swyddogaeth darllen yn uchel.