Mae bod yn aelod o bwyllgor yn gyfrifoldeb mawr. Gofalwch eich bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau cyfreithiol a sut i amddiffyn eich sefydliad yn y dyfodol mewn ffordd effeithiol.
Er mwyn bod yn ‘ddwylo diogel’ ar gyfer eich grŵp cymunedol neu elusen, mae angen bod yn gyfarwydd gyda’ch cyfrifoldebau a chyfyngiadau eich pwerau. Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn delio gyda sylfeini cyfreithiol eich rôl fel ymddiriedolwr, ac yn tynnu sylw at y prif feysydd cyfrifoldeb - megis cyllid, diogelu, iechyd a diogelwch a gwrthdaro buddiannau - y mae angen i bob ymddiriedolwr fod yn ymwybodol ohonynt.
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn deall yn well eich cyfrifoldebau a rhwymedigaethau fel ymddiriedolwr neu aelod o bwyllgor. Hefyd bydd gennych drosolwg o sylfeini cyfreithiol y sefydliad rydych yn ei wasanaethu.
Lawrlwytho
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer aelodau pwyllgor presennol a newydd ac unrhyw un sy’n ystyried bod yn ymddiriedolwr neu aelod o bwyllgor ar grŵp cymunedol lleol, elusen neu sefydliad gwirfoddol.