Cyfle i ddysgu’r grefft o lunio ceisiadau am gyllid, cewch gyfle i gyfrannu at y ‘Cawl Cymdeithasol’, a hwyrach ennill ychydig o gyllid ar gyfer eich prosiect.
Rhagarweiniad hygyrch i ysgrifennu ceisiadau am gyllid grant. Hefyd, cewch gefnogaeth i ddatblygu cyflwyniad 3 munud a hwyrach y cewch gyfle i ‘roi cyflwyniad’ ar eich prosiect yn ystod digwyddiad codi arian amser cinio ar thema ‘Cawl Cymunedol’.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall yr hyn y mae cyllidwyr yn chwilio amdano mewn cais, ac yn dysgu cyngor hynod werthfawr gan ein hyfforddwyr profiadol o ran cyfleu eich neges mewn ffordd fachog a chryno.
Lawrlwytho
Mae’r cwrs sylfaenol hwn yn addas i unrhyw un sy’n ystyried llunio cais am grant i gyllido prosiect neu grŵp cymunedol.