Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!
Ydych chi’n awyddus i wella presenoldeb eich sefydliad ar gyfryngau cymdeithasol, ond nid ydych yn glir ynghylch yr hyn dylid ei gyhoeddi neu beidio? Neu sut i wneud y defnydd gorau o gyfryngau cymdeithasol i gyrraedd eich cynulleidfa?
Mae potensial cyfryngau cymdeithasol yn enfawr - nid yn unig o ran codi proffil eich sefydliad ond hefyd o ran creu cymuned diddordeb ar-lein o’ch cwmpas. Mae’n cymryd amser i feithrin y cysylltiadau hyn, ac mae angen meddwl yn ofalus ynghylch sut y dylai’ch staff a gwirfoddolwyr wneud y defnydd gorau o gyfryngau cymdeithasol i gyflwyno eich gwaith a gweithgareddau ar-lein a magu ffydd yn eich sefydliad.
Ail ran cwrs dau ran yw hwn, sy’n eich helpu i feddwl ar lefel strategol am yr hyn y gall eich sefydliad ei gyflawni gyda chyfryngau cymdeithasol, sut i dargedu a blaenoriaethu eich ymdrechion yn y ffordd fwyaf effeithiol ac economaidd, a sut i sicrhau fod eich sefydliad yn ymwreiddio arferion ar-lein da.
Bydd yr ail sesiwn yn eich helpu ystyried goblygiadau staff a gwirfoddolwyr sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar ran eich sefydliad. Bydd yn eich helpu adnabod potensial, cyfyngiadau a risgiau, a bydd yn dangos sut gall polisi cyfryngau cymdeithasol syml cefnogi gweithwyr a gwirfoddolwyr i gyfrannu at gyfryngau cymdeithasol ar ran eich sefydliad.
Bydd y sesiwn hefyd yn mynd yn ddyfnach i’r negeseuon rydych yn ceisio eu cyfleu, a’r math o bobl rydych yn awyddus eu cyrraedd - i’ch helpu datblygu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a dargedir sy’n meithrin momentwm ac sy’n eich helpu i fagu cysylltiadau hirdymor gyda chefnogwyr.
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn:
Ail sesiwn cwrs dau ran yw hwn. Byddwch yn cael y budd gorau o’r ddau sesiwn trwy ddod i’r ddau. Fodd bynnag, nid oes rhaid ichi fynychu’r ddau. Gallwch ddod i un sesiwn neu’r llall heb fod yn bresennol yn y llall.
Anelir y ddau sesiwn at unrhyw staff, ymddiriedolwyr neu wirfoddolwyr sy’n defnyddio neu’n ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook a Twitter) ar ran eu sefydliad; y sawl sy’n gyfrifol am strategaeth a chynllunio; neu’r sawl sy’n cydlynu staff neu wirfoddolwyr sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol.