HYFFORDDIANT PAVO

Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!

Cyfryngau Cymdeithasol 1.0: Cynllunio a Dylunio

Amcanion y cwrs

Ydy’ch presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn achos siom ichi? Ydych chi’n gwastraffu oriau ar Facebook a Twitter heb unrhyw ganlyniadau amlwg? Ydych chi’n dyheu am weld eich cyhoeddiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn 'lledu fel feirws'?

Y realiti yw bod llai nag 1% o gyhoeddiadau’n lledu fel feirws, ac er nad yw’n costio dimai i gael presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol, mae ymgyrchoedd hybu llwyddiannus ar gyfryngau cymdeithasol yn golygu amser, meddwl ac egni i’w cael yn iawn. Felly, yn debyg i unrhyw agwedd arall ar eich sefydliad, mae angen cynlluniau ac adnoddau priodol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.


Cynnwys y cwrs

Rhan gyntaf cwrs dau ran yw hwn, i’ch helpu meddwl mewn ffordd strategol am yr hyn y gellir ei gyflawni ar ran eich sefydliad trwy gyfryngau cymdeithasol, sut i dargedu a blaenoriaethu’ch ymdrechion yn fwy effeithiol ac yn economaidd, a sut i sicrhau fod eich sefydliad yn ymwreiddio arferion ar-lein da.

Yn y sesiwn cyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad i hanfodion strategaeth effeithiol ym maes cyfryngau cymdeithasol, a byddwch yn mynd trwy gamau cyntaf troi eich strategaeth yn batrwm rheolaidd o gyhoeddiadau effeithiol a phriodol ar gyfryngau cymdeithasol. Cyfrwng gweledol yn bennaf yw cyfryngau cymdeithasol, felly bydd rhan o’r sesiwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio cynlluniau templed sydd ar gael am ddim megis Canva i’ch helpu dylunio lluniau ac e-bosteri proffesiynol a chyffrous ar gyfer eich ymgyrchoedd ar gyfryngau cymdeithasol.


Canlyniadau'r cwrs

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn: 

  • Deall beth yw strategaeth cyfryngau cymdeithasol 
  • Gyfarwydd gyda’r rhesymau dros gael strategaeth cyfryngau cymdeithasol
  • Dechrau datblygu strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich sefydliad 
  • Deall pwysigrwydd cyfryngau gweledol
  • Datblygu eich sgiliau dylunio digidol 
  • Dylunio poster gweledol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol

I bwy mae'r cwrs wedi'i anelu

Mae’r sesiwn yma’n rhan gyntaf cwrs dau ran. Byddwch yn cael y budd gorau o’r ddau sesiwn trwy ddod i’r ddau. Fodd bynnag, nid oes rhaid ichi fynychu’r ddau. Gallwch ddod i un sesiwn neu’r llall heb fod yn bresennol yn y llall.

Anelir y ddau sesiwn at unrhyw staff, ymddiriedolwyr neu wirfoddolwyr sy’n defnyddio neu’n ystyried defnyddio cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook a Twitter) ar ran eu sefydliad; y sawl sy’n gyfrifol am strategaeth a chynllunio; neu’r sawl sy’n cydlynu staff neu wirfoddolwyr sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol.


Ticedi sydd ar gael

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020 @ 10:00 - 16:30

Lleoliad Math o docyn Pris Ticedi sydd ar gael  
PAVO Offices Unit 30, Ddole Road Industrial Estate Llandrindod Wells, Powys LD1 6DF £20.00
£20.00 (members)
Digwyddiad wedi bod
 
PAVO Offices Unit 30, Ddole Road Industrial Estate Llandrindod Wells, Powys LD1 6DF £50.00
£20.00 (members)
Digwyddiad wedi bod
 

Ymholiadau Hyfforddiant

Os gennych chi unrhyw ymholiad ynglŷn â hyfforddiant cysylltwch:

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity