HYFFORDDIANT PAVO

Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!

Cynnig Gwasanaethau yn Gymraeg: Sut, Pryd a Pham?

Amcanion y cwrs

Ydych chi’n methu cynnig eich gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd? Ydych chi’n aros nes i gleient neu wirfoddolwr ofyn am rywbeth yn Gymraeg? Ydych chi’n cymryd yn ganiataol nad oes unrhyw alw am wasanaethau Cymraeg, oherwydd does neb wedi gofyn am hynny?

Os taw ‘Ie’ yw’r ateb i’r cwestiynau hyn, bydd y gweithdy hwn yn ddelfrydol ichi!

Cynnwys y cwrs

Gall darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg wneud gwahaniaeth enfawr i gleientiaid sy’n siarad Cymraeg, yn enwedig wrth ddelio gyda materion personol megis iechyd meddwl ac iechyd corfforol neu’r teulu. Ond nid yw llawer o bobl yn hyderus i ofyn am y gwasanaeth yn Gymraeg, a hwyrach y byddant yn teimlo’n anghyfforddus neu’n rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gwasanaeth yn gyfan gwbl.

Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar strategaeth ‘Cynnig Rhagweithiol’ Llywodraeth Cymru, sydd yn syml iawn yn golygu eich bod yn darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Nod y strategaeth yw creu newid o safbwynt diwylliant ac arferion sy’n golygu nad yw defnyddiwr y gwasanaeth yn gyfrifol am ofyn am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y gweithdy’n ystyried agweddau ymarferol a manteision cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Er enghraifft, gall darparu gwasanaethau yn y Gymraeg gyfoethogi enw da’ch sefydliad yn sylweddol ymhlith siaradwyr Cymraeg a denu cleientiaid a gwirfoddolwyr amrywiol sy’n cynrychioli’r ardal leol yn well. Bydd y sesiwn hefyd yn eich helpu i ddechrau datblygu cynllun gweithredu i wella’ch darpariaeth o wasanaethau Cymraeg.

Canlyniadau'r cwrs

Erbyn diwedd y sesiwn yma, byddwch yn:

  • Deall yr angen ar gyfer gwasanaethau Cymraeg eu hiaith, ac arwyddocâd prosiect y Cynnig Rhagweithiol
  • Gallu adnabod yr hyn mae’ch sefydliad yn ei wneud eisoes a’r hyn y mae angen ei wella mewn perthynas â darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Gallu cychwyn drafftio Cynllun Gweithredu’r Iaith Gymraeg. 
  • Deall ac yn meddu ar wybodaeth ynghylch cyfarchion dwyieithog sylfaenol.
  • Deall sut i ddefnyddio pecyn arfau’r Cynnig Rhagweithiol.

I bwy mae'r cwrs wedi'i anelu

Mae’r cwrs yma ar gyfer unrhyw grŵp neu sefydliad sy’n darparu gwasanaethau neu sy’n defnyddio gwirfoddolwyr yng Nghymru.

Ticedi sydd ar gael

Dydd Mawrth 10 Mawrth 2020 @ 13:30 - 16:30

Lleoliad Math o docyn Pris Ticedi sydd ar gael  
Plas Dolerw Milford Rd Newtown SY16 2EH £0.00
Digwyddiad wedi bod
 

Ymholiadau Hyfforddiant

Os gennych chi unrhyw ymholiad ynglŷn â hyfforddiant cysylltwch:

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity