Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!
Cyfle i ddysgu mwy am sut i gysylltu’ch prosiect â defnyddwyr lleol ar Facebook a Twitter. Ffordd gyflym a rhad i gyrraedd pobl, a’u cynnwys wrth rannu newyddion da, manylion digwyddiadau ac ymgyrchoedd.
Rhagarweiniad rhwydd ei ddeall i ddefnyddio Facebook, Twitter ac arfau eraill ym maes cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’ch prosiect i ddefnyddwyr eich gwasanaeth ac i gyrraedd darpar wirfoddolwyr a chefnogwyr.
Erbyn diwedd y cwrs hwn byddwch yn meddu ar y sgiliau technegol i sefydlu a defnyddio prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Hefyd byddwch yn elwa o gyngor gwerthfawr ein hyfforddwyr profiadol o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd a chynnwys rhan ehangach o’ch cymuned leol yn eich prosiect.
Ar gyfer pobl sy’n ‘newydd’ i gyfryngau cymdeithasol ac unrhyw un sydd am ddeall yn well sut gall eu prosiect neu grŵp elwa o ddefnyddio arfau cyfryngau cymdeithasol.