HYFFORDDIANT PAVO

Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!

Cael trefn ar eich Polisïau ar gyfer Gwirfoddolwyr

Amcanion y cwrs

Ydych chi’n ystyried recriwtio gwirfoddolwyr? Neu hwyrach bod gennych raglen gwirfoddoli eisoes, ond nid ydych yn sicr a ydy’r systemau iawn gennych i’w cefnogi?

Cynnwys y cwrs

Wrth ruthro i gael hyd i a recriwtio gwirfoddolwyr i helpu cefnogi’ch gwasanaethau a’ch gweithgareddau, peth hawdd yw anghofio’r hanfodion. Ond heb bolisïau clir a gweithdrefnau pendant i gefnogi’ch rhaglen gwirfoddoli, gall gwirfoddolwyr ddioddef oherwydd eu profiadau a’u triniaeth.

Trwy gael y polisïau a’r gweithdrefnau’n iawn o’r cychwyn cyntaf, bydd gennych seiliau cadarn ar gyfer profiad gwirfoddoli pleserus sy’n rhydd rhag unrhyw straen, ar gyfer y gwirfoddolwyr eu hunain, a’r sawl sy’n gweithio gyda nhw.

Mae’r cwrs yma’n rhoi cyflwyniad a sesiwn gloywi ar brif nodweddion polisi gwirfoddoli effeithiol a sut i’w gweithredu er budd ac i ddiogelu eich gwirfoddolwyr. Mae hefyd yn cynnwys cyfle i adolygu deddfwriaeth gyfredol sy’n berthnasol i wirfoddolwyr.

Canlyniadau'r cwrs

Ar ddiwedd y cwrs yma byddwch:

  • yn gallu datblygu polisi gwirfoddoli
  • wedi ystyried pa bolisïau eraill sydd eu hangen efallai
  • yn deall y prif faterion cyfreithiol sy’n berthnasol i wirfoddolwyr

I bwy mae'r cwrs wedi'i anelu

Anelir y cwrs at unigolion sy’n ystyried recriwtio gwirfoddolwyr am y tro cyntaf. Hefyd bydd yn addas i sefydliadau sydd â rhaglenni gwirfoddoli eisoes, ond sydd am loywi a diweddaru eu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer gwirfoddolwyr.

Yr hyfforddwr ar gyfer y cwrs yw Michiel Blees, Swyddog Canolfan Gwirfoddoli Powys gyda PAVO

Ymholiadau Hyfforddiant

Os gennych chi unrhyw ymholiad ynglŷn â hyfforddiant cysylltwch:

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity