Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!
Ydych chi’n ystyried recriwtio gwirfoddolwyr? Neu hwyrach bod gennych raglen gwirfoddoli eisoes, ond nid ydych yn sicr a ydy’r systemau iawn gennych i’w cefnogi?
Wrth ruthro i gael hyd i a recriwtio gwirfoddolwyr i helpu cefnogi’ch gwasanaethau a’ch gweithgareddau, peth hawdd yw anghofio’r hanfodion. Ond heb bolisïau clir a gweithdrefnau pendant i gefnogi’ch rhaglen gwirfoddoli, gall gwirfoddolwyr ddioddef oherwydd eu profiadau a’u triniaeth.
Trwy gael y polisïau a’r gweithdrefnau’n iawn o’r cychwyn cyntaf, bydd gennych seiliau cadarn ar gyfer profiad gwirfoddoli pleserus sy’n rhydd rhag unrhyw straen, ar gyfer y gwirfoddolwyr eu hunain, a’r sawl sy’n gweithio gyda nhw.
Mae’r cwrs yma’n rhoi cyflwyniad a sesiwn gloywi ar brif nodweddion polisi gwirfoddoli effeithiol a sut i’w gweithredu er budd ac i ddiogelu eich gwirfoddolwyr. Mae hefyd yn cynnwys cyfle i adolygu deddfwriaeth gyfredol sy’n berthnasol i wirfoddolwyr.
Ar ddiwedd y cwrs yma byddwch:
Anelir y cwrs at unigolion sy’n ystyried recriwtio gwirfoddolwyr am y tro cyntaf. Hefyd bydd yn addas i sefydliadau sydd â rhaglenni gwirfoddoli eisoes, ond sydd am loywi a diweddaru eu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer gwirfoddolwyr.
Yr hyfforddwr ar gyfer y cwrs yw Michiel Blees, Swyddog Canolfan Gwirfoddoli Powys gyda PAVO.