HYFFORDDIANT PAVO

Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!

Codi Arian 102: Cynllunio ac Ysgrifennu Strategaeth

Amcanion y cwrs

Ydych chi’n gorfod rhuthro i gael hyd i gyllid newydd pan ddaw grant i ben? Ydy’r egni sydd ei angen i wneud yr holl geisiadau amrywiol am gyllid yn teimlo’n werth chweil? Ydy’r broses o fodloni meini prawf grantiau weithiau’n teimlo fel ceisio rhoi darn sgwâr o bren mewn twll crwn?

Cynnwys y cwrs

Bydd arfer agwedd strategol tuag at godi arian yn helpu sicrhau fod gan eich elusen incwm cymysg sy’n canolbwyntio egni ar y meysydd codi arian hynny fydd yn dod â’r incwm mwyaf ichi. Yn y sesiwn ymarferol hwn byddwch yn adolygu perfformiad eich sefydliad ac yn adnabod eich strategaeth at y dyfodol.

Canlyniadau'r cwrs

Deilliannau i chi a’ch sefydliad:

  • Proses i ddatblygu eich strategaeth codi arian, gan ystyried ffactorau sefydliadol a’r amgylchedd allanol.
  • Gwerthuso opsiynau a chyfleoedd codi arian er mwyn penderfynu pa fethodoleg sydd fwyaf addas i’r achos, y sefydliad ac anghenion tymor byr a hirdymor.
  • Paratoi cynllun blynyddol sy’n olrhain ar gyfer bob maes codi arian: targedau, gweithgareddau, amserlenni, dangosyddion perfformiad ac anghenion o ran adnoddau.
  • Adolygiad o berfformiad eich sefydliad yn y gorffennol
  • Cyfeiriad clir ar gyfer eich sefydliad a syniadau newydd ar gyfer codi arian

I bwy mae'r cwrs wedi'i anelu

Ar gyfer pwy mae’r cwrs?

Mae’r cwrs hwn ar gyfer ymddiriedolwyr neu staff â swyddogaeth codi arian o fewn y sefydliad.

Ymholiadau Hyfforddiant

Os gennych chi unrhyw ymholiad ynglŷn â hyfforddiant cysylltwch:

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity