Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!
Ffurfiwyd eich sefydliad chi i wneud gwahaniaeth. Ond rydych yn darganfod fod yr angen i adrodd ar weithgareddau a deilliannau tymor byr yn amharu ar y llun cyfan? Ydych chi’n gwybod a yw eich gwaith yn newid eich cymuned neu amgylchedd er gwell go iawn?
Yn y weminar hon bydd cyfle i ystyried seilio eich gwaith ar ddull o weithio sy’n ‘seiliedig ar effaith’ i’ch helpu canolbwyntio ar y goedwig yn lle’r coed unigol!
Dros y degawd diwethaf, mae ffocws nifer fawr o sefydliadau a chyllidwyr wedi symud o ddeilliannau prosiect tymor byr tuag at y gwahaniaeth hirdymor a wneir ganddynt - sef yr’ effaith’. Trwy’r weminar hon, ceir cyflwyniad i’r cysyniad o effaith a sut gellir ei defnyddio i asesu’r gwahaniaeth a wneir gan eich sefydliad neu brosiect i’r cymunedau rydych yn eu gwasanaethu, ac i’ch helpu cadw eich gwaith ar y trywydd cywir o safbwynt eich cenhadaeth ac amcanion cyffredinol.
Ar ddiwedd y weminar hon, byddwch yn deall:
Anelir y cwrs yma at unrhyw un sy’n cyfrannu at gynllunio a chyflenwi prosiectau a gyllidir gyda chyllid grant, a’r sawl sydd am ddatblygu agwedd strategol tuag at wireddu cenhadaeth eu sefydliad.
I gadw eich lle ar y weminar hon, cliciwch ar y botwm 'archebu lle' nawr.